Mae ‘Dangos a Dweud’ Caerdydd Creadigol yn ddigwyddiad chwarterol sy’n rhoi platform i amrywiaeth gyffrous o bobl a phrosiectau creadigol y ddinas. Mae’n dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd o dalent sefydledig i dalent newydd, i glywed am eu huchelgeisiau a’u prosiectau cyfredol.
Bydd pob un o’r siaradwyr yn rhoi cyflwyniad brys o 10 munud ac yn dod â gwrthrych gyda nhw. Gallai’r gwrthrych fod yn ffynhonnell eu hysbrydoliaeth, offeryn gwaith neu rywbeth sy’n eu cysuro. Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwaith ac yn esbonio pwysigrwydd eu gwrthrych.
Rydym yn hapus iawn i groesawu’r siaradwyr canlynol i’n digwyddiad cyntaf:
Sarah Cole - Mae Sarah Cole yn rheolwr cynhyrchiad a lleoliad ac yn gyfarwyddwr Cwmni SC Productions. Mae hi wedi gweithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau; o wyliau i gyngherddau i ddigwyddiadau mawr awyr agored. Mae Sarah yn gweithio ar brosiect dathlu canmlwyddiant Roald Dahl flwyddyn nesaf mewn cydweithrediad gyda Chanolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales.
Hilary Wagstaff – Yn dod o Benarth, mae Hillary yn gwneud dillad doliau ac yn artist. Trwy ei chwmni, Moshi Moshi, mae Hilary yn dylunio ac yn creu gwisgoedd bach couture i gasglwyr doliau, yn eu gwerthu trwy Etsy ac mewn ffeiriau doliau rhyngwladol. Mae Hilary’n cyflwyno ei chasgliad diweddaraf yn BlytheCon UK 2015 yn Llundain, man cyfarfod pwysig i gasglwyr doliau Blythe.
Peter Rogers – Mae Peter yn gynhyrchydd creadigol ac yn gyfarwyddwr Cwmni Bait sydd wedi ennill nifer o wobrau. Ef yw prif gyswllt graffeg symudol ac effeithiau gweledol y cwmni ar draws y cyfryngau yn cynnwys teledu, ffilm, hysbysebu a cherddoriaeth. Bu Peter yn gweithio yn y maes hysbysebu creadigol ac mae hefyd yn nofelydd graffig, felly mae’n dod ag elfen adrodd stori gref i bob partneriaeth cynhyrchu.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd ar gyfer y digwyddiad hwn, ebostiwch: creativecardiff@caerdydd.ac.uk