TROSOLWG O’R SWYDD
Rydym yn chwilio am Ysgrifennwr Copi Cymraeg creadigol i’n cynorthwyo i flaenoriaethu’r Gymraeg ar draws ein holl ymgyrchoedd. Byddant yn cael y dasg o sicrhau bod ein negeseuon yn cyrraedd ac yn taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith.
Rydym yn angerddol dros yr iaith ac yn falch o fod yn asiantaeth ddwyieithog. Gadewch eich marc eich hun ar ein hymgyrchoedd trwy for yn rhan annatod o’n naratif a phob agwedd o’n gwaith.
Byddwch yn rhan annatod o’r Tîm Creadigol o ddylunwyr, cyfarwyddwyr creadigol, ysgrifenwyr copi ac ieithyddion gwobrwyog. Byddwch yn gweithio gyda nhw a thîm ehangach y Cowshed i greu ymgyrchoedd creadigol dewr.
Mae Cowshed yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol, yn asiantaeth Glasbrint, yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ac yn Fusnes Ymwybodol o Awtistiaeth. Rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr heb gynrychiolaeth ddigonol.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â ni a gallwn wneud addasiadau addas. Mae gan ein swyddfa lifft grisiau a lifft er hwylustod.
Gwnewch gais erbyn 17.30 ddydd Mercher 13eg o Fawrth, drwy e-bostio eich atebion i'r cwestiynau canlynol i fiona@wearecowshed.co.uk. Nid oes angen CV.
C1. Dywedwch wrthym pam yr ydych yn gwneud cais am y swydd hon a pham Cowshed.
C2. Amlinellwch eich profiad yn erbyn y sgiliau craidd, gan gynnwys enghreifftiau perthnasol lle bo modd. Os nad oes gennych yr union brofiad, dywedwch wrthym am y sgiliau y credwch y gellir eu trosglwyddo.
C3. Dywedwch wrthym am achos yr ydych yn angerddol drosto a sut y byddech yn defnyddio'r Gymraeg yn greadigol i fynd i'r afael â’r achos yma o fewn cymunedau Cymraeg eu hiaith?
Cofiwch gadw ymatebion ysgrifenedig i 500 gair fesul cwestiwn a rhaglenni fideo neu sain o dan 2 funud.
Y DYDD I DDYDD
- Creu copi iaith cymhellol, diwylliannol sensitif ar gyfer amrywiaeth eang o lwyfannau cyfathrebu, gan gynnwys cynnwys digidol, datganiadau i'r wasg, teledu, allan o'r cartref a chyhoeddiadau.
- Sicrhau ymagwedd Cymraeg yn Gyntaf, gan wella effaith a chyrhaeddiad cyffredinol ein gwaith.
- Bod yn frwd ar draws y cyfryngau Cymreig ac adrodd straeon o ddiddordeb yn ôl i'r tîm a thueddiadau mewn iaith a chynnwys Cymraeg.
- Mynychu trosleisio a saethu fideo i wirio cynnwys a chywirdeb y Gymraeg sy'n cael ei recordio.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
- Cynnal Safonau'r Gymraeg a sicrhau defnydd priodol o iaith dechnegol mewn sectorau megis gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
- Sicrhau ymgysylltiad effeithiol a chywirdeb ieithyddol y Gymraeg ar draws pob cyfathrebiad. Bydd hyn yn golygu cyfieithu’n greadigol waith o’r Saesneg a phrawfddarllen gwaith cyfieithu pobl eraill.
- Hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ein hymgyrchoedd, cefnogi ein cleientiaid, a Cowshed.
- Gallu ardderchog i gydweithio a chyfathrebu ar draws timau a phrosiectau.
- Cynnal y safonau uchaf o ran cywirdeb, ansawdd, ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ym mhob cyfathrebiad Cymraeg, gan weithredu fel rheolaeth ansawdd ar draws y sefydliad.
SGILIAU CRAIDD
Bydd pob ymgeisydd sy'n dangos y sgiliau craidd a restrir isod yn cael eu gwahodd am gyfweliad.
- Cymraeg ysgrifenedig a llafar eithriadol.
- Sgiliau sylw rhagorol i fanylion a phrawf ddarllen.
- Sgiliau ysgrifennu creadigol cryf
- Creu cynnwys deniadol ac effeithiol.
- Profiad o reoli prosiectau lluosog.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf.
AGWEDD BERSONOL
Rydym yn chwilio am bobl sy'n rhannu ein cenhadaeth trwy weithio ag angerdd i wneud gwahaniaeth.
- Byddwch yn poeni am greu effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
- Byddwch yn hunan-gymhellol, ymroddedig, a chwilfrydig.
- Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am wneud y gwaith ar gyfer eich cleientiaid.
- Byddwch yn cyfrannu at ein diwylliant gwaith cynhwysol.
- Byddwch yn cyfrannu at gyfarfodydd yn rheolaidd.
- Byddwch yn mwynhau datrys problemau creadigol i gynhyrchu syniadau ar gyfer eich cleientiaid a Cowshed.
- Byddwch yn onest a disgwylir i chi gael eich trin yn broffesiynol a chyda pharch, gan drin eraill yn yr un ffordd.
- Byddwch yn angerddol am y Gymraeg ac yn creu negeseuon sy’n cyrraedd ac yn taro deuddeg gyda chynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith.