Uwch Reolwr/wraig Gweithrediadau Lleoliad

Cyflog
£35,567
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
27.03.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 13 March 2025

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Uwch Reolwr/wraig Gweithrediadau Lleoliad

Cyflog: £35,567

Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos

Math o Gytundeb : Parhaol, oriau blynyddol

Dyddiad Cau: 21/03/2024

Dyddiad Cyfweld: 2ail/3ydd Ebrill

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio

Amdanom ni/Ein Hadran:

Mae gan y tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid rôl newydd cyffrous ar gyfer arweinydd profiadol i ymuno â ni fel Uwch Reolwr/wraig Gweithrediadau Lleoliad.

Fel tîm, rydym newydd gwblhau ein blwyddyn fwyaf cyffrous hyd yma, gan lansio cinio Gala flaenllaw ar gyfer pen-blwydd CMC yn 20 oed, ynghyd â dathliad pen-blwydd cyntaf Ffwrnais, ein gofod newydd sbon. Wrth i CMC gyrraedd ei 21ain blwyddyn, mae gennym ni gynlluniau cyffrous sy’n cynnwys lansio siop manwerthu newydd a datblygu lleoliad awyr agored a fydd yn ganolbwynt i Fae Caerdydd yn haf 2025.

  • Rhowch drosolwg o'ch adran a'r hyn y mae eich adran yn gyfrifol amdano o fewn CMC
  • Cyfle i arddangos rhai prosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar
  • Prosiectau/heriau cyffrous sydd ar fin dod i'r adran.


Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

Mae'r rôl hon yn gyfrifol am arwain a goruchwylio pob agwedd ar reolaeth weithredol a chyflawniad yr holl weithgareddau sy'n ymwneud â'r cyhoedd ar draws y safle. Bydd yr Uwch Reolwr/wraig Gweithrediadau Lleoliad yn gweithio o fewn y tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid sy'n cwmpasu rheoli‘r lleoliad, darparu digwyddiadau a gwasanaethau lletygarwch (a elwid gynt yn fwyd a diod).Byddwch yn gyfrifol am gynllunio a darparu'r holl wasanaethau a ddarperir gan y lleoliad yn effeithiol, o'i hagor hyd at ei gau i ddefnyddwyr yr adeilad. Bydd y rôl yn gyfrifol am feysydd allweddol o'r busnes gan gefnogi'r Pennaeth Gweithrediadau Cwsmeriaid i gyflawni targedau gwerthu yn unol â'r disgwyl. Bydd hyn yn cynnwys creu strategaethau a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol i redeg pob maes gweithredu ar gyfer cwsmeriaid yn effeithiol.

Bydd deiliad y swydd yn arwain, ysgogi a rheoli 4 Rheolwr Gweithrediadau Cwsmeriaid a fydd yn eu tro yn rheoli tîm o Reolwyr Dyletswydd parhaol ac achlysurol i redeg y sefydliad o ddydd i ddydd. Bydd y rôl yn gyfrifol am gyfathrebu’n effeithiol, gan ddarparu cyfeiriad ac arweiniad gweithredol clir er mwyn cyflawni nodau strategol CMC.

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser. ·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudolGwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.


Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event