Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
Mae'r adran Marchnata a Chyfathrebu yn gyfrifol am feithrin a chynnal cynulleidfaoedd cynaliadwy ac ymwelwyr achlysurol ar gyfer ystod eang o gynyrchiadau, rhaglenni a gweithgareddau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Wrth i ni barhau i weithredu newidiadau cadarnhaol ar draws ein rhaglen a’n diwylliant sefydliadol, bydd y rôl hon yn allweddol i helpu i gryfhau ein henw da fel canolbwynt creadigol a chanolfan gelfyddydau cenedlaethol.
Sylwch, mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Dyddiad Cau: 01 Mehefin 2022
Am fwy o fanylion am y rôl a fwy o fanylion am ein buddion staff cystadleuol, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/buddion-staff
Proses Ymgeisio:
- Ewch i https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/swyddi-gwag
- Adolygu proffil rôl yr Uwch Reolwr/wraig Cyfathrebu (Dwyieithog)
- Lawr lwythwch a chwblhewch ffurflen gyflenwi Canolfan y Mileniwm, gan gyfeirio at y nodyn canllaw i gael gwerthoedd Canolfan y Mileniwm
- Cwblhewch y ffurflen Cyfle Cyfartal
- Anfonwch eich CV a Ffurflen Eglurhaol i recruitment@wmc.org.uk
Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.