Uchafbwyntiau Cerddoriaeth Byw: Carys

Efallai mai 2024 yw blwyddyn fwyaf yng Nghaerdydd ar gyfer cerddoriaeth hyd yn hyn!

I ddathlu, byddwn yn tynnu sylw at rhai o straeon y flwyddyn lwyddiannus hon ar gyfer perfformiadau byw yn y ddinas drwy siarad â’r cefnogwyr, y bandiau a’r dalent du ôl i’r llenni am yr hyn sy’n gwneud Caerdydd yn lle mor arbennig ar gyfer cerddoriaeth fyw. 

Ar gyfer ein ymgyrch Dinas Cerdd, dyma ni'n siarad â Carys o Gaerdydd Creadigol am ei hoff foment o gerddoriaeth fyw yn y ddinas!

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 26 June 2024

Carys at Pulp

Pa gyngerdd sy'n dal i sefyll allan fel yr un orau rwyt ti wedi’i gweld yn y ddinas? Beth oedd yn gwneud perfformiad y band/artist yma mor rhyfeddol?

Ers i fi symud i Gaerdydd 7 mlynedd yn ôl, rydw i wedi gweld cymaint o artistiaid gwych yn perfformio mewn digwyddiadau mawr ac yn ein lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad gwych. Rydyn ni’n hynod o lwcus yng Nghaerdydd i gael cymaint o leoliadau i ddewis ohonyn nhw, pob un yn cynnig rhaglenni cyffrous ac amrywiol gyda pherfformwyr cerddorol newydd a sefydledig o Gymru a thu hwnt. Fel lleoliad, mae'n rhaid i mi sôn am Glwb Ifor Bach. Mae'n lle gwych i weld cerddoriaeth fyw a dwi dal methu credu ’mod i wedi llwyddo i gael tocynnau i weld y Libertines yn perfformio mewn sesiwn mor agos-atoch. Cyn eleni, y tro diwethaf welais i nhw’n perfformio oedd yn Hyde Park. Ym mis Ionawr, roeddwn i’n un o 200 o bobl a aeth i’w gig yng Nghlwb Ifor Bach.

Er bod y Libertines yn wych, uchafbwynt y flwyddyn oedd gweld fy hoff fand Pulp yn aduno ar gyfer taith o’r DU a’u gweld nhw’n perfformio ar garreg fy nrws yn yr Utilita Arena! Rydw i wedi caru cerddoriaeth Pulp ers fy arddegau ac wedi dyheu am y diwrnod y byddwn i'n eu gweld nhw’n perfformio'n fyw. Rydw i wedi bod yn edrych ar eu rhestrau gigs yn gyson ers bron i 10 mlynedd!

The Libertines at Clwb Ifor Bach

Wyt ti wedi bod i lawer o gyngherddau Pulp?

Naddo, gwaetha’r modd! Dim ond dwywaith, ac roedd y ddau yn 2023. Wedi dweud hynny, roeddwn i yno ar gyfer première eu ffilm ddogfen 'A Film About Life, Death & Supermarkets' yn Sheffield pan oeddwn i'n 16 - dyna’r agosaf roeddwn i wedi bod at eu gweld nhw’n fyw cyn eleni. Rydw i hefyd wedi bod i weld Jarvis yn perfformio ei setiau unigol bum gwaith yn y gorffennol!

Pulp live show

Beth oedd mor arbennig am eu sioe yng Nghaerdydd? Oes gennyt ti unrhyw straeon hwyl neu gofiadwy o'r noson honno?

Roedd gig Pulp yn arbennig o arwyddocaol i fi gan fod fy nheulu cyfan, sydd i gyd hefyd yn ffans, wedi dod o ogledd Cymru i ymuno â fi yn y sioe. Cawson ni i gyd amser arbennig, cymaint felly nes i fi brynu tocyn i'w gweld nhw yn Sheffield, eu dinas enedigol, yn ddiweddarach ar y daith. Fel Cymro Cymraeg, roedd yn anhygoel o gyffrous gweld fy hoff artist (Jarvis Cocker) yn siarad tipyn o Gymraeg ar y llwyfan! Mae’n amhosib dewis uchafbwynt o’r gig honno, ond roedd cyrraedd y blaen mewn pryd ar gyfer Common People yn arbennig o gofiadwy.

Yn ogystal, wrth i ni edrych ’mlaen at fwy o gerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd yn y dyfodol, pa artist neu fand rwyt ti’n gyffrous iawn amdano?

Mae’n flwyddyn mor gyffrous o gerddoriaeth yng Nghaerdydd. Mae'r Principality am groesawu amrywiaeth o enwau mawr, mae Tafwyl yn dychwelyd, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Bontypridd ac ym mis Hydref, byddwn ni’n gweld Sŵn, Llais a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn dychwelyd, a’r Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd gyntaf. Gyda blwyddyn mor llawn o'n blaenau, mae'n anhygoel o anodd dewis beth rwy’n edrych ’mlaen i'w weld fwyaf. Byddaf i’n mynd i weld y Libertines eto yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a dwi hefyd yn gyffrous i hel atgofion gyda ffrindiau yn gig Avril Lavigne yn y castell. Rydw i hefyd yn edrych ’mlaen at ddarganfod cerddoriaeth newydd, felly anfonwch unrhyw argymhellion gigs ata’ i!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event