Technegydd Llwyfan Achlysurol (sero Awr)

Cyflog
£9.50 yr Awr
Location
Caerdydd
Oriau
Other
Closing date
23.07.2021
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 16 July 2021

Mae proffil y rôl hon yn cynnwys rolau Criw Llwyfan, Technegydd a Gwisgoedd. Rydym wedi eu cyfuno mewn un rôl gan fod gan lawer o weithwyr sgiliau trosglwyddadwy i gwmpasu pob agwedd ar ddarparu cymorth Llwyfan.

Fel un o'r technegwyr achlysurol eich prif rôl fydd gwasanaethu'r cynyrchiadau ym mhob un o'r mannau perfformio yn y Ganolfan, gan weithio ar ddigwyddiadau wedi'u lleoli o amgylch yr adeilad yn ogystal â thu allan i adeilad y Ganolfan. Mae'n bosibl y gall hyn gynnwys cymryd rhan mewn teithiau achlysurol.

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o gynyrchiadau teithiol o’r radd flaenaf, o sioeau cerdd, dawns, ac opera i gomedi, yn ogystal â chynyrchiadau, digwyddiadau a chynadleddau rhyngwladol. Byddwch yn rhan annatod o'r tîm sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynyrchiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith.

Mae'r adran hon yn aml-sgil felly bydd disgwyl i chi weithio ym mhob maes technegol o fewn y Ganolfan os oes angen.

Am fwy o fanylion, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/swyddi-gwag

“Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg”

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.