Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am recriwtio Swyddog Cyfathrebiadau Digidol llawn amser i ymuno â’r tîm.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli ein presenoldeb digidol ar draws nifer o blatfformau - yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, y wefan a thrwy e-bost. Un elfen allweddol o’r rôl fydd gweithio’n rhagweithiol gyda chynhyrchwyr, aelodau a rhanddeiliaid CCIC i ddynodi straeon ac i adrodd y straeon hynny mewn ffordd ddiddorol.
Bydd y rôl hon, a ariennir gan y Paul Hamlyn Foundation, yn rhan allweddol o’n gwaith i gynyddu tegwch ac amrywiaeth o fewn ein sefydliad, trwy ymgysylltu gyda phartneriaid a phobl ifanc ar y platfformau y maent yn eu defnyddio bob dydd.
Bydd llwyddiant y rôl hon yn cael ei fesur nid yn unig gan argraffiadau neu gyrhaeddiad, ond gan sut bydd y strategaeth cyfathrebiadau digidol yn effeithio ar dargedau amrywiaeth ein sefydliad, ar y nifer o gyfranogwyr y gallwn eu recriwtio ar gyfer ein prosiectau, a’n targedau codi arian ac incwm a enillir.
Rydym yn chwilio am rywun sydd nid yn unig yn meddu ar brofiad ym maes cyfathrebiadau digidol, ond sut y gellir defnyddio’r arfau hyn er mwyn sicrhau newid cymdeithasol, ac er mwyn ymgysylltu gyda phobl ifanc am y tymor hir.