Os maent ar gael, hysbysebir cyfleoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw Caerdydd Creadigol yn gyfrifol am ddewis iaith hysbysebwyr allanol.
Swyddog Cynnwys Amlgyfrwng
Postiwyd gan: sarallewelyn
Am y Rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Cynnwys Amlgyfrwng creadigol a rhagweithiol i ymuno â’n tîm Cyfathrebu. Byddwch yn arwain ar greu a chyflwyno cynnwys digidol deniadol ar draws ein platfformau – o’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan i ymgyrchoedd ac achlysuron allanol.
Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu
Postiwyd gan: sarallewelyn
Am y Rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfryngau a Chyfathrebu medrus a rhagweithiol i helpu i lunio a chyflwyno presenoldeb cyfryngau Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn y rôl amrywiol hon, byddwch yn arwain ar berthnasoedd â’r cyfryngau, datblygu ymgyrchoedd effeithiol, a chreu cynnwys deniadol ar draws llwyfannau digidol a thraddodiadol.
Recriwtio Ymddiriedolwyr Papertrail
Postiwyd gan: Papertrail
Mae Papertrail yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd i fod yn rhan o siapio dyfodol y cwmni ym myd y theatr a straeon na chlywir yng Nghymru
Rydym yn tyrchu am straeon na chlywir a’u rhannu gyda chynulleidfa mewn ffyrdd unigryw. Mae pob cynhyrchiad yn plethu ysgrifennu beiddgar gyda llwyfanu anturus, ac yn golygu gweithio law yn llaw â chymunedau wrth greu y gwaith. Mae ein proses yn cael ei yrru gan chwilfrydedd. Rydym yn awyddus i ddod i adnabod pobl mewn lleoliadau penodol a dod o hyd i’r stori sydd angen cael ei chlywed.
