Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Rheolwr/wraig Dyletswydd Cabaret
Oriau Gwaith: (Rhan amser – 20 awr yr wythnos, oriau blynyddol) – Penwythnosau a Nosweithiau
Cyflog: 14,614.67
Dyddiad Cau:
Dyddiad Cyfweld:
Noder na fydd ceisiadau trwy Indeed yn cael eu derbyn.
I wneud cais am y rôl hon ac i ddarganfod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ewch i: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/ein-hadeilad-an-pobl/gyrfaoedd-a-swyddi
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae ein Rheolwyr Dyletswydd yn gyntaf ac yn bennaf arweinwyr. Byddwch yn arwain staff lleoliad Cabaret i greu noson gofiadwy i'n gwesteion. Fel Rheolwr/wraig Dyletswydd Cabaret, byddwch yn cadw'r tîm yn llawn cymhelliant ac yn gyrru rhagoriaeth ar shifft, tra’n macsimeiddio gwerthiannau o’r bar a nwyddau. Eich nod fydd sicrhau tîm gwybodus a chroesawgar, sy'n hyrwyddo gweledigaeth y Ganolfan.
Rydym yn tanio'r dychymyg trwy ein profiadau, gan greu atgofion dilys ac arbennig trwy fynd yr ail filltir.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Bydd ein Rheolwr/wraig Dyletswydd Cabaret yn chwarae rhan allweddol yn nhîm arweinyddiaeth Profiad Cwsmeriaid. Byddwch yn cymryd yr awenau yn ein lleoliad mwyaf newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gan helpu i lunio croeso cynhwysol a chreu awyrgylch hwyliog a bywiog.
Fel Rheolwr/wraig Dyletswydd Cabaret, byddwch yn gyfrifol am arwain y tîm sy'n delio gyda’n cwsmeriaid, gan gynnwys Staff y Bar a Thywyswyr Gwirfoddol. Byddwch hefyd yn bwynt cyswllt 'ar y noson' i bob artist, gan sicrhau bod eu hymweliad yma yn brofiad positif a bod unrhyw broblemau'n cael eu datrys yn effeithlon.
Bydd eich rôl yn amodol ar wiriad DBS.
Gofynion Allweddol
- Mae profiad o reoli ac arwain tîm yn hanfodol.
- Byddai profiad o reoli gweithwyr achlysurol a gwirfoddolwyr yn fantais.
- Y gallu i reoli ac arwain tîm mewn amgylchedd gwaith deinamig.
- Yn dal Trwydded Bersonol neu'n barod i gael eich hyfforddi fel deiliad Trwydded Bersonol a sicrhau bod CMC yn cydymffurfio â'i Thrwydded Safle a rheoliadau statudol eraill.
- Bod yn gwbl gyfarwydd â rheoliadau Iechyd, Diogelwch a Thân, gan gynnwys cynnal a datblygu asesiadau risg priodol.
- Byddai’r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
25 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, ar sail pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser.
8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo.
Aelodaeth Cymorth Meddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
Yswiriant bywyd o 4x cyflog blynyddol
Tocynnau theatr am bris gostyngol
Clwb cymdeithasol
Gwersi Cymraeg am ddim
Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.