Rheolwr/wraig Cynhyrchu
Cyflog: £35,000
Amdanom Ni
Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Am y Rôl
Mae gan Ganolfan Mileniwm Cymru gyfle cyffrous i reolwr/wraig cynhyrchu profiadol ymuno â'n tîm Technegol i arwain a rheoli wrth gynhyrchu ein prosiectau mewnol. Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gweithio gydag artistiaid a chwmnïau i gynhyrchu amrywiaeth o gynyrchiadau a gyflwynir yn ein Stiwdio Weston a hefyd ar daith yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r rhain yn amrywio o ran maint a graddfa ond mae gan bob un ffocws cerddorol clir, wedi’u gwreiddio yng Nghymru ac yn tanio dychymyg.
Bydd y Rheolwr/wraig Cynhyrchu yn atebol i’r Pennaeth Technegol ac yn gweithio’n agos gyda’r tîm Cynhyrchu, rhyddgyfrannwyr, artistiaid, unigolion creadigol a staff technegol.
Dylech wneud cais os oes gennych·O leiaf 2 flynedd o brofiad o reoli cynhyrchu·Ymrwymiad i werthfawrogi a datblygu diwylliant a hunaniaeth yng Nghymru ym mhob agwedd ar weithgareddau’r Ganolfan·Brofiad o gynllunio a gwaith cyn-gynhyrchu·Brofiad o reolaeth ariannol, cyllidebu a chynhyrchu adroddiadau (gan gynnwys profiad o reoli cyllidebau cynhyrchu)·Wybodaeth am y byd celfyddydau perfformio lleol, cenedlaethol a rhyngwladol·Brofiad o oruchwylio'r broses gynhyrchu gan gynnwys adeiladu setiau, propiau, gwisgoedd, goleuo, taflunio sain a fideo·Wybodaeth am arferion Iechyd a Diogelwch cyfredol ac yswiriant perthnasol sy'n cydymffurfio â safonau'r diwydiant·Gymhelliant uchel a’r gallu i weithio'n annibynnol·Barodrwydd i weithio'n hyblyg mewn ymateb i anghenion newidiol y prosiect·Y gallu i weithio o dan bwysau, blaenoriaethu a rheoli amser yn effeithiol·Ymrwymiad i, a dealltwriaeth o, gynhwysiant a hygyrchedd·Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, yn enwedig ar lafar, gyda sylw i fanylder·Y gallu i feithrin perthnasoedd cryf ag unigolion a thimau·Ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i gydweithwyr a chwsmeriaid bob amser·Ddull creadigol a blaengar o ddatrys problemau·Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn
- 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo.
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Tocynnau theatr am bris gostyngol
- Clwb cymdeithasol
- Gwersi Cymraeg am ddim.
Rydym yn croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os byddwch yn gwneud cais am rôl yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.