Mae Chapter yn chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu.
Diben y Swydd
Bydd y Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu yn gweithio gyda’r tîm i ddatblygu a chyflwyno strategaethau marchnata a chyfathrebu sy’n ehangu amcanion datblygu cynulleidfaoedd Chapter. Byddant yn cydweithio’n agos gydag artistiaid a chwmnïau sy’n ymweld, y tîm rhaglennu, a gyda thimau ar draws y sefydliad gan gynnwys Technoleg Gwybodaeth, Masnachu a’r Gymuned Greadigol.
Bydd gan y Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu gyfrifoldeb dros reoli ymgyrchoedd, datblygu cynulleidfaoedd, y wasg, cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu a deunydd arddangos, er mwyn adeiladu proffil, cynyddu ymweliadau, cyrraedd targedau ariannol, a sicrhau mynediad ar gyfer y gynulleidfa ehangaf bosib.
Bydd y Rheolwr yn rhywun sy’n gweithio’n dda fel rhan o dîm, ac yn yr un modd yn gallu gweithio ar eu menter eu hunain, gan ragweld heriau a darparu datrysiadau effeithiol.
Byddant yn darparu goruchwyliaeth dydd i ddydd i’r Swyddog Cyfathrebu Digidol, y Swyddogion Gwasanaeth Ymwelwyr rhan amser (contractau tymor penodol), ac interniaid/gwirfoddolwyr pan fydd angen.
- Graddfa: £26,353
- Contract: Parhaol (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis)
- Oriau gwaith: 40 awr yr wythnos (TOIL). Bydd rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.
- Lleoliad: Gweithio hybrid – rydyn ni’n gweithio rhwng y swyddfa a’r cartref ar hyn o bryd. Does dim angen i ymgeiswyr fyw yng Nghymru o reidrwydd, ond bydd disgwyl iddynt fod yn Chapter ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau allweddol, ac felly bydd angen bod yn bresennol yng Nghaerdydd yn rheolaidd.
- Adran: Rhaglen a Marchnata
- Yn adrodd i: Cyfarwyddwr Rhaglen
- Yn adrodd yn uniongyrchol i’r swydd: Swyddog Cyfathrebu Digidol, Swyddogion Gwasanaethau Ymwelwyr (dwy swydd ran amser tymor penodol), gwirfoddolwyr ac interniaid yn ôl yr angen.
Am ragor o wybodaeth (yn cynnwys disgrifad sain) ac i wneud cais, gweler linc isod.
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: 9am, Dydd Mawrth 31 Mai
Cyfweliadau: Yr wythnos 6 Mehefin