Rheolwr Grŵp Bwyd a Diod (Pennaeth Adran Bwyd a Diod)

Cyflog
£41,278.00-£52,251.00
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
01.11.2021

Postiwyd gan: AmgueddfaCymru1

Dyddiad: 14 October 2021

Eich gwaith...

Arwain wrth ddatblygu model busnes arlwyo sy’n sicrhau cynaliadwyedd ariannol at y dyfodol. Sicrhau bod pob elfen o’r busnes arlwyo yn cyd-fynd â gwerthoedd yr Amgueddfa ac ymrwymiadau’r strategaeth 10 mlynedd. Gan adrodd yn uniongyrchol i Bennaeth Mentrau, byddwch hefyd yn gyfrifol am wella effeithlonrwydd y busnes a chynyddu elw, a sicrhau bod ymrwymiadau’r siarter ymwelwyr yn ganolog i’r holl wasanaeth bwyd a diod.

Eich nod...

• Creu astudiaeth fanwl a chynhwysfawr o’r gwasanaeth bwyd a diod ar draws Amgueddfa Cymru.

• Sefydlu a chyflwyno model busnes arlwyo sy’n gynaliadwy yn ariannol ac yn cyd-fynd ag ymrwymiadau’r strategaeth 10 mlynedd.

• Cyflwyno project/au tendro ar gyfer unrhyw gontractau arlwyo trydydd parti.

• Sefydlu rhaglenni hyfforddi a chyfathrebu mewnol i gynnig profiadau atyniadol drwy’r gwasanaeth bwyd a diod.

• Darparu bwyd a diod o safon uchel sy’n diwallu anghenion cynulleidfa amrywiol ar draws chwe amgueddfa.

• Pob agwedd o’r busnes yn cydymffurfio â’r safonau uchaf o ran iechyd a diogelwch, hylendid bwyd, a deddfwriaeth drwyddedu.

• Tîm brwdfrydig sy’n deall eu rôl ar gyfer cyflawni targedau busnes a chyflawni’r cynlluniau twf hirdymor.

• Bodloni neu fynd yn uwch na thargedau perfformiad busnes blynyddol.

• Datblygu map strategol ar gyfer dyfodol gwasanaeth bwyd a diod ar draws Amgueddfa Cymru. Sut i gyrraedd y nod...

• Gweithio gyda rhanddeiliaid, partneriaid a thîm gweithredol yr Amgueddfa i gyflwyno rhaglen ymgynghori eang ar arlwyo.

• Datblygu amserlen project fanwl i gyflwyno’r adolygiad arlwyo a sefydlu cymorth allanol lle bo’n briodol i gefnogi hyn.

• Datblygu project modelu busnes i alluogi i gyfres o argymhellion gael eu cyflwyno i’r tîm gweithredol.

• Datblygu astudiaethau dichonoldeb a chynlluniau busnes manwl i gefnogi argymhellion arlwyo.

• Rheoli prosesau tendro llwyddiannus o’r cychwyn i’r contract, er mwyn cadarnhau cyflenwyr addas ac abl.

• Arwain unrhyw newid i fodel gweithredu masnachol newydd neu wahanol ar gyfer arlwyo i ddigwyddiadau ac ymwelwyr.

• Rheoli’r contract arlwyo masnachfraint presennol a rheoli timau arlwyo mewnol mewn strwythur matrics.

• Datblygu perthynas effeithiol a phositif gydag adrannau ar draws Amgueddfa Cymru sy’n cyfrannu at waith ddatblygu’r gwasanaeth bwyd a diod.

• Datblygu’r seilwaith a’r prosesau cyson i sefydlu ffyrdd o brynu yn lleol ac yn gynaliadwy.

• Datblygu model prisio i gefnogi sefydlogrwydd ariannol tra’n cynnig gwerth am arian i ymwelwyr, cleientiaid digwyddiadau preifat a digwyddiadau a gynhelir gan Amgueddfa Cymru.

• Datblygu bwydlenni a chynnyrch sy’n cefnogi cynnyrch Cymreig.

Sut i gefnogi amcanion corfforaethol Amgueddfa Cymru...

1. Ymroi yn llawn i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal fel yr amlinellir ym Mholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y sefydliad a’u gweithredu.

2. Cefnogi gwaith yr adran o gydymffurfio â pholisïau Amgueddfa Cymru ar Gynaliadwyedd a’r iaith Gymraeg.

3. Cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill y gallai eich gweithredoedd, neu eich diffyg gweithredu, effeithio arnynt, a chydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch fel sy’n briodol.

4. Yn rhan o delerau’ch cyflogaeth, mae’n bosibl y gofynnir i chi ymgymryd â dyletswyddau eraill a/neu weithio oriau eraill fel sy’n rhesymol, yn unol â’ch gradd neu’ch lefel cyfrifoldeb cyffredinol o fewn y sefydliad.

Rydyn ni’n chwilio am berson...

• All ddadlau dros newid • Sy’n frwd dros waith a gweledigaeth Amgueddfa Cymru

• All ymgysylltu â chwsmeriaid drwy ein bwyd a diod.

• All herio’r status quo

• All gyflwyno canlyniadau a gwelliannau i’r busnes

• All feddwl yn greadigol

• Sydd â trwydded bersonol Yr wybodaeth a’r cymwysterau angenrheidiol...

• Cymhwyster rheoli project – fel PRINCE2 – neu brofiad cyfwerth.

• Cymwysterau perthnasol a allai gynnwys diploma City & Guilds / cymwysterau proffesiynol eraill neu brofiad o reoli busnes arlwyo aml-leoliad.

• Gwybodaeth estynedig o’r sector arlwyo a lletygarwch.

• Lefel 3 mewn diogelwch/hylendid bwyd.

• Gwybodaeth am letygarwch ac arlwyo mewn atyniadau i ymwelwyr a/neu’r sector twristiaeth.

Y profiad angenrheidiol...

• Cyflwyno project masnachol cymhleth yn llwyddiannus, ar amser ac o fewn y gyllideb.

• Profiad profadwy o ymgynghori â rhanddeiliaid.

• Profiad profadwy o gyflawni gwelliannau busnes mewn cyd-destun arlwyo.

• Mentora timau i gyflawni amrywiaeth o dargedau busnes.

• Trafod a datblygu contractau masnachol.

• Cefndir mewn cyflwyno arlwyo o’r safon uchaf mewn digwyddiadau.

• Profiad o dendro contractau uchel eu gwerth.

Y sgiliau angenrheidiol...

• Sgiliau cyfathrebu rhagorol.

• Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a’r gallu i ddylanwadu newid.

• Sgiliau rheoli project.

• Sgiliau cynllunio busnes medrus.

• Sgiliau rheoli amser a threfnu cryf.

Beth sy’n bwysig i ni...

Rydym yn annog pob aelod staff i arddel ein gwerthoedd sefydliadol yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos sut maent yn arddel y gwerthoedd hyn yn eu gwaith a’u bywyd ar hyn o bryd.

Creadigrwydd • Rydym yn ysbrydoli creadigrwydd drwy ein hamgueddfeydd, ein casgliadau a sgiliau ein staff a’n gwirfoddolwyr.

Cyfrifoldeb • Rydym yn gyfrifol am ein gilydd, ein hymwelwyr, yr amgylchedd a’r iaith Gymraeg, gan ofalu am ein lles ein gilydd a’r casgliadau cenedlaethol.

Gonestrwydd • Rydym yn gweithredu’n onest bob amser, gan gynnal safonau proffesiynol drwy fod yn ddidwyll ac yn ddibynadwy.

Cynhwysol • Mae ein hamgueddfeydd yn gynhwysol, ac rydym yn parchu amrywiaeth ein staff a’n hymwelwyr.

Cydweithio • Rydym yn cydweithio â’n gilydd, gyda chymunedau a phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.