Swydd Wag: Prif Weithredwr Dros Dro (tymor penodol 6 mis)
Telerau
Contract: Swydd dros dro am 6 mis i gychwyn
Oriau: Llawn amser (37.5 awr yr wythnos) gyda rhywfaint o ymrwymiadau min nos a phenwythnos y bydd amser o’r gwaith yn cael ei roi yn eu lle.
Yn gweithio o: I weithio o Gaerdydd gan deithio trwy Gymru i gefnogi ein Canolfannau ac ymhellach yn achlysurol. Hyblyg/hybrid ar gael gydag isafswm o ddau ddiwrnod yn y swyddfa bob wythnos.
Cyflog / Buddion: £60,000 y flwyddyn (pro rata ar gyfer y cyfnod penodol 6 mis)
Gwyliau: 25 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol (pro rata ar gyfer rhan-amser)
Dyddiad Dechrau: Yn ddelfrydol dechrau Mai 2024
Dyddiad cau: 18/04/24
Disgrifiad Swydd
Fel Prif Weithredwr Dros Dro Hijinx, byddwch yn arwain y blaen o ran hyrwyddo ein gweledigaeth a’n cenhadaeth.
Bydd eich arweinyddiaeth yn llywio’r sefydliad tuag at gyrraedd cerrig milltir rhyfeddol o ran cynhwysiant, cynrychiolaeth, a chyflogi proffesiynol ar weithwyr proffesiynol creadigol ag anabledd dysgu a/neu Awtistig.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Hijinx wedi bod ar daith ryfeddol o dwf a llwyddiant. Wedi parhau i greu a dysgu trwy’r pandemig, mae Hijinx wedi ymddangos ar ôl Covid fel sefydliad sydd hyd yn oed yn fwy blaengar ac ymatebol, gan adeiladu ar ein llwyddiannau i ffynnu.
Gyda’n Prif Weithredwr presennol, Sarah Horner, yn symud ymlaen yn ei gyrfa ym mis Mai, mae gennym angen dod â Phrif Weithredwr profiadol i mewn ar unwaith ar sail dros dro i sicrhau parhad a sefydlogrwydd yn ystod y cyfnod hwn o newid, tra byddwn yn cynnal cyfnod pwysig o ystyried ein hanghenion tymor hwy a’n ffocws yn y swydd allweddol hon.
Y Prif Weithredwr Dros Dro sy’n gyfrifol am roi arweiniad strategol a gweithredol gyda phwyslais penodol ar reolaeth ariannol a phersonél, creu incwm a holl ymrwymiadau cyfreithiol a chontractaidd y cwmni.
Mae sicrhau bod cam cyntaf ein cytundeb cyllido newydd gyda Chyngor y Celfyddydau yn cael ei gyflawni yn elfen allweddol o’r swydd hon, gan arwain ar wireddu ein cynllun busnes strategol trwy bedair blaenoriaeth strategol:
- Cynyddu mynediad at greadigrwydd, hyfforddiant, gwaith a lleoedd
- Cynyddu ein gallu i gyrraedd a chryfhau ein heffaith, i sicrhau bod cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn gallu ymgysylltu â’r celfyddydau, a chyflawni eu potensial
- Cynyddu’r gallu i gyflawni ein gwaith a’n potensial creadigol
- Sicrhau bod ein gwaith yn gynaliadwy, yn gefnogol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a’n planed
Y Prif Weithredwr Dros Dro sy’n gyfrifol am roi arweiniad strategol a gweithredol gyda phwyslais penodol ar reolaeth ariannol a phobl, creu incwm a holl ymrwymiadau cyfreithiol a chontractaidd y cwmni. Bydd y Prif Weithredwr Dros Dro yn cael cefnogaeth lawn ein bwrdd ymddiriedolwyr gweithredol a medrus, yn benodol yr is-bwyllgorau Pobl a Chyllid, sy’n gweithio’n glos gyda’r tîm gweithredol uwch i arwain ein strategaethau ariannol, cynhwysiant a phobl.
Mae’n bwysig i’r Prif Weithredwr Dros Dro allu arwain yn hyderus trwy’r cyfnod hwn o newid ac i roi sicrwydd ac arweiniad pwysig i’r tîm uwch ac ehangach.
Rydym yn chwilio am sgiliau penodol mewn arwain pobl, cyllid a newid a bod yn gyfarwydd â’r celfyddydau a/neu’r trydydd sector.
Fel Prif Weithredwr Dros Dro byddwch yn:
- Arwain ac ysbrydoli ein tîm ymroddedig i gyflawni nodau sefydliadol, gan gynnwys cynyddu cynrychiolaeth ar lwyfan a sgrin i weithwyr creadigol proffesiynol ag anabledd dysgu a/neu awtistig, a thrawsnewid y sector i weithio’n fwy cynhwysol.
- Sicrhau sefydlogrwydd ariannol, a rhagoriaeth weithredol ar draws pob agwedd o’r sefydliad.
- Meithrin a chynnal partneriaethau gyda rhanddeiliaid, cyllidwyr, a’r gymuned gelfyddydol ehangach i hyrwyddo ac ehangu effaith Hijinx.
- Hyrwyddo llesiant ein staff, gan sicrhau gweithle sy’n rhoi gwerth ar wahaniaethau unigol, sy’n cefnogi twf proffesiynol, ac yn ymrwymo i gyfleoedd cyfartal ac amrywiaeth.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol:
- Brofiad arwain profedig yn y sectorau celfyddydau, diwylliant neu nid er elw, gydag angerdd dros gynhwysiant ac effaith cymdeithasol.
- Dull llawn gweledigaeth o arwain sefydliadau tuag at dwf a blaengaredd.
- Gallu ariannol cryf a sgiliau cynllunio strategol.
- Gallu rhagorol i gyfathrebu a llunio perthynas, gyda thalent ar gyfer meithrin cydweithrediad a phartneriaethau.
- Ymrwymiad dwfn i gynhwysiant, amrywiaeth a llesiant staff ac aelodau o’r gymuned.
Darganfyddwch fwy ar wefan Hijinx.