Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Amdanom ni/Ein Hadran:
Fel un o leoliadau celfyddydol mwyaf eiconig a mwyaf adnabyddus y DU, mae rhan o’n llwyddiant yn deillio o’n hymrwymiad i roi cyfle i bobl ddatblygu a ffynnu.
Rydym yn gwneud hyn drwy gefnogi talent o Gymru sy’n dod i’r amlwg, gyda phrofiadau dysgu sy’n newid bywydau, gweithdai ymarferol, a phrentisiaethau technegol. Mae gennym brentisiaid wedi’u lleoli yma yn y Ganolfan, ond hefyd gyda sefydliadau partner ledled Cymru, gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Brycheiniog, Theatr Clwyd a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae ein prentisiaid presennol wedi cwblhau lleoliadau yn ddiweddar gyda chynyrchiadau teithiol fel Les Misérables, Blood Brothers a Charlie & The Chocolate Factory ymhlith eraill. Maent hefyd wedi cefnogi nifer o sioeau a gynhyrchwyd gan y Ganolfan fel Es & Flo a The Making Of A Monster.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun prentisiaeth ewch i https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/prentisiaethau-technegol.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Mae technegwyr theatr cefn llwyfan yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno perfformiadau byw, gan sicrhau bod pob cynhyrchiad yn cael ei gynhyrchu i'r safon uchaf posibl. Prif ddiben y rôl hon yw datblygu sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy unigolion sy’n cychwyn eu gyrfaoedd technegol - mewn meysydd sy'n benodol i grefft y llwyfan, goleuo a sain ar gyfer adloniant byw.
O ddydd i ddydd byddwch yn adrodd i'r Rheolwr Llwyfan Technegol neu'r Prif Drydanwr, a fydd yn eich integreiddio i'r adran dechnegol ehangach gan eich gosod ar nifer o brosiectau er mwyn i chi canfod ac ymarfer eich arbenigedd. Byddwch hefyd yn adrodd i'r Cydlynydd Prentisiaid a Hyfforddiant, sy'n goruchwylio'r rhaglen prentisiaid i sicrhau bod unigolion yn cyrraedd eu targedau ymarferol ac asesu - a grëwyd gyda'u tiwtor o Goleg Caerdydd a'r Fro. Mae'r cydlynydd hefyd yn gyfrifol am eich amserlen hyfforddi broffesiynol a fydd yn cynnwys teithiau i ffwrdd o'r Ganolfan.
Dros y 12 mis, byddwch yn cwblhau Gwobr Efydd Cymdeithas Technegwyr Theatr Prydain (ABTT) ynghyd â chymhwyster Profion PAT ac IPAF a byddwch yn ymgymryd â gweithdy rigio, goleuo a sain broffesiynol. Byddwch hefyd yn mynychu sioe fasnach yn y Gwanwyn/Haf. Er yn amodol ar amserlenni hyfforddi, gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl gweithio ar gynyrchiadau teithiol fel Everyone’s talking about Jamie, Aladdin gan Disney a The Wizard of Oz. Bydd cyfle hefyd i weithio ar ein sioe gerdd Gymraeg newydd a chyffrous, sef Branwen: Dadeni, ynghyd â sawl cynhyrchiad gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Gofynion Allweddol:
Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael ar gyfer Wythnos Sefydlu yn yr wythnos yn cychwyn yr 2ail o Hydref.
Mae oriau gwaith prentis yn amrywio ychydig o wythnos i wythnos gan ddibynnu ar ofynion y cynhyrchiad y maent yn gweithio arno. Mae'n rhaid i ni bwysleisio nad rôl 9-5 yw hon, felly rydym yn annog ymgeiswyr i feddwl yn galed a yw'r math hwn o waith yn addas ar eu cyfer mewn achos o wrthdaro. Rydym hefyd yn eich annog i feddwl am eich trefniadau teithio ac a yw'n ymarferol/ddichonadwy ar eich cyfer ar yr adeg hon.
Bydd eich gwerthusiad yn seiliedig ar feini prawf gymharol gyfnewidiol. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i chi ddarparu tystiolaeth o'ch dealltwriaeth o theatr dechnegol cefn llwyfan a pha feysydd penodol sydd o ddiddordeb i chi a pham. Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu dysgu neu ddangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gan y byddwch yn gweithio mewn sefydliad mawr gyda phobl o wahanol gefndiroedd, safbwyntiau a hunaniaeth.
Yn olaf, bydd disgwyl i chi ddangos tystiolaeth o agwedd dda a pharodrwydd tuag at weithio’n broffesiynol, dysgu sgiliau newydd, a sicrhau cynnydd yn eich gwaith cwrs.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, ynghyd â'r cyfle i brynu neu werthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol bob blwyddyn
- 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
- Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
- Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
- CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
- NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
- Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.