Pobl greadigol sy’n dod i’r amlwg yn cael lle canolog yn arddangosfa Dydd Gŵyl Dewi

Heddiw, mae deg darn o gelf a ysbrydolwyd gan Gaerdydd wedi cael eu dadorchuddio gan Caerdydd AM BYTH mewn arddangosfa ddigidol Dydd Gwyl Dewi sy’n hyrwyddo talent greadigol ifanc yn y brifddinas a sector sy’n cael ei daro’n galed gan y pandemig.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 March 2021

Ymhlith y comisiynau sy'n cael eu harddangos yn yr arddangosfa gelf yw Castell Caerdydd mewn siarcol, map o ganol y ddinas wedi'i frodio â gwlân Cymreig, a phortreadau o rai o gymeriadau mwyaf adnabyddus y ddinas. 

Comisiynwyd y detholiad o bobl ifanc greadigol, 18-25 oed, gan Caerdydd AM BYTH i ddatblygu gweithiau celf a oedd yn adrodd stori am Gaerdydd. Mewn tair wythnos yn unig, mae deg darn wedi’u cynhyrchu ac yn cael eu datgelu i’r cyhoedd fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Mae'r crewyr hefyd yn cael y llwyfan i ddisgrifio eu proses greadigol, eu hysbrydoliaeth a sut mae'r pandemig wedi effeithio ar eu diwydiant. Gydag allbwn economaidd i lawr 52% yn sectorau creadigol y DU, mae artistiaid ymhlith y grŵp yr effeithir arnynt fwyaf gan yr hinsawdd sydd ohoni.

Mae ‘Pobl Greadigol y Brifddinas’ Caerdydd AM BYTH yn rhoi hwb ychwanegol i’r bobl greadigol ifanc, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth am ddim gan weithwyr proffesiynol, ynghyd â £500 i ddatblygu eu darnau.

Mae’r ymgyrch yn dilyn ymlaen o’r prosiect llwyddiannus Wal stori ein Caerdydd Creadigol a gynhaliwyd gan Ein Caerdydd Creadigol y llynedd a gomisiynodd 14 o artistiaid i adrodd eu stori am Gaerdydd. Eisteddodd un o’r artistiaid a ddewiswyd, Keith Murrell, ar y panel o feirniaid i ddewis y bobl greadigol ifanc i’w comisiynu ar gyfer arddangosfa Dydd Gŵyl Dewi.

Cyn y pandemig, byddai Dydd Gwyl Dewi yn gweld miloedd o bobl yn gorymdeithio strydoedd canol y ddinas, ond mae’r arddangosfa’n caniatáu i bobl barhau i ymgolli yn niwylliant amrywiol Caerdydd, gan wahodd y cyhoedd i werthfawrogi talent leol o’u cartrefi.

Mae Ophelia Dos Santos (22) o Gaerdydd, sydd wedi cynhyrchu brodwaith clytwaith o ganol dinas Caerdydd, yn esbonio pam mae'r ganolfan yn golygu cymaint iddi:

“Saer maen yw fy nhad a weithiodd ar adfer y cerflun morgrugysor eiconig sy’n gwarchod wal y castell. Fe wnaeth fy nhaid, saer coed, adfer arteffactau yn yr Amgueddfa Genedlaethol hefyd.

Mae fy nheulu wedi bod yn rhan annatod o gadw diwylliant Caerdydd yn fyw, felly rwy’n teimlo ei bod hi’n bryd i fi gyfrannu at ddiwylliant Caerdydd hefyd. Mae fy map brodwaith yn dangos rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus Caerdydd a rhai o’r wynebau hynod sydd, yn fy marn i, yn rhan anhepgor o dreftadaeth y ddinas.

Dywedodd Adrian Field, Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Caerdydd: “Mae’r prosiect hwn wedi tynnu sylw at y gymuned amrywiol, fywiog o bobl greadigol ifanc yr ydym yn ffodus o’u cael yn ein dinas. Pa ffordd well i ddathlu ein treftadaeth Gymreig ysblennydd y Dydd Gwyl Dewi hwn?

“Mae FOR Caerdydd wedi ymrwymo i amddiffyn a chryfhau diwylliant yng nghanol dinas Caerdydd, ac mae ein harddangosfa yn caniatáu i bobl brofi celf a ysbrydolwyd gan Gaerdydd ar bob ffurf, gan gynnwys dawns, tecstilau, cân, darlunio a dylunio graffig, o gysur eu cartrefi.”

Mae FOR Caerdydd hefyd yn gwneud cynlluniau i arddangos y darnau o gelf ledled y ddinas, yn barod i bobl eu mwynhau yn bersonol wrth i'r cyfyngiadau lacio.

Mae’r deg darn a gomisiynwyd yn cael eu dadorchuddio trwy gydol y dydd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol FOR Caerdydd - @FORCardiff / @FOR_Cardiff - ac anogir pobl i gefnogi’r artistiaid ifanc trwy ‘hoffi’ a ‘rhannu’ ar draws Facebook, Twitter ac Instagram.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy ymweld â gwefan FOR Caerdydd.

FOR Cardiff St David's Day line-up

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event