Keith Murrell

Fel rhan o’r prosiect hwn, bu trafodaethau parhaus ag 8 artist Carnifal lleol, yn gweithio gartref ar eu gwisg a’u syniadau am gymeriadau eu hunain... 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 24 September 2020

o draddodiadau gorllewin affrica

Adeola's jumblesJumbies Adeola.
O draddodiadau Gorllewin Affrica, bodau goruwchnaturiol o dal yw Jumbies sy'n gweithredu fel cyfryngwyr rhwng y nefoedd a'r ddaear, gan ddwyn rhybuddion yn aml: a dewisodd Adeola goch a gwyn fel symbol o fywyd a marwolaeth. Roedd Adeola wedi hoffi un o'm patrymau cynharach o'r blaen (y darlun gwreiddiol yw craig mewn pwll yn Fferm y Fforest, Caerdydd), oedd yn debyg i ffigurau fel ysbrydion yn dawnsio. Addasais y lliwiau i gydweddu ac ar ôl ychydig mwy o waith ymddangosodd rhywbeth fel pâr o banshees yn wylofain.

Bean friend - with Alice FogatyBean Friend - gydag Alice Fogaty. 
Soniodd Alice i ddechrau am ddihangdod ac angenfilod enfawr ond roedd y rhain yn y pen draw yn rhai cyfeillgar a dychmygol, weithiau'n ddrygionus. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd â'r enw 'Bean Friend' ar y pryd ond roedd y lluniau o fygydau roedd Alice yn eu gwneud yn fy atgoffa o bryfaid yn debyg i locustiaid. Mae'r llun gwreiddiol ar gyfer y patrwm hwn (a dynnwyd eto yn Fferm y Fforest) yn dangos sioncyn y gwair ar frwynen wedi'i phlygu - neu efallai ddim. 

Blue Devils - with Cath McShane-KouyateCythreuliaid Glas - gyda Cath McShane-Kouyate. 
Mae'r Cythreuliaid Glas yn draddodiad Carnifal yn Trinidad ac roedd Cath wedi chwarae yn y Cythreuliaid Glas gyda'i theulu pan fu'n ymweld â Trinidad ac mewn carnifalau eraill yng Nghaerdydd. Yn bennaf mae'n cynnwys llawer o gnawd wedi'i beintio'n las, gyda fawr ddim lle nag angen am syniadau dylunio, ond yn ddiweddar roeddwn i wedi cwblhau hunanbortread dystopaidd ar gyfer arddangosfa Lleisiau Newydd WMC, ac roeddwn i'n digwydd bod yn las ynddo. Es i ymlaen i greu'r patrwm hwn wrth roi cynnig ar ap meddalwedd newydd a phan rannais i e gyda'r artistiaid eraill gofynnodd Cath amdano ar gyfer adran y Cythreuliaid Glas.

King ImpBrenin Coblyn - gyda Mary Ann Roberts. 
Mae'r Brenin Coblyn yn gymeriad traddodiadol arall o'r Carnifal yn y Caribî. Mae'n rhagflaenu agor gatiau uffern. Mae Mary Anne wedi bod yn chwarae'r cymeriad hwn ers sawl blwyddyn ac roedd rhan helaeth o'i gwisg mewn storfa. Rhannodd fideo o agor blwch pen y Brenin - oedd yn edrych yn rhyfeddol o debyg i ddelwedd o fwgwd wyneb digidol roeddwn i wedi'i chreu wrth arbrofi gyda phatrymau. Defnyddiais fy nelwedd o fwgwd i greu patrwm arall o'r patrymau hyn. Y darlun gwreiddiol yw gwlith barugog ar laswellt yng Nghwm George ger Dinas Powys.

winds of changeGwyntoedd Newid.
Mae Gwyntoedd Newid Caroline wedi'i ysbrydoli'n rhannol gan berfformiad Siberaidd a ysbrydolwyd gan shaman ar YouTube, a rannodd gyda'r grŵp. O'r fideo hwnnw a stori Caroline, roeddwn i wedi dychmygu rhywbeth eithaf daearol a hyd yn oed syber o ran lliw - ond pan ddaeth Caroline â rhan o'i gwisg i sesiwn fyrfyfyr o dynnu lluniau’n ddiweddar gwelais ei fod yn lliwgar iawn. Y penwythnos hwn llwyddais i fynd i Goedwig Hensol a bûm i'n ddigon lwcus i weld Mantell Dramor. 

Yema-SukuYema-Suku.
Mae Yema-Suku yn gyfuniad o ddau endid Affro-Caribïaidd: 'Duwdod' môr/afonol yw Yemaya sy'n tarddu o Orllewin Affrica, a all fod yn gymwynasgar neu'n ddinistriol: a daw Suku o derm Creole am ellylles neu fampir benywaidd. Rhannodd Flow frasluniau cynnar o wyneb ffyrnig a drwgargoelus gyda gwallt a dillad anniben a soniodd am liwiau glas a gwyrdd tywyll: mewn sgwrs ddiweddarach soniodd Flow am gael rhywbeth yn ymwneud â 'choeden'. Ar fy nhaith i Goedwig Hensol tynnais luniau o sawl coeden ffyrnig, ddrwgargoelus ac anniben yr olwg, ac ar gyfer y patrwm hwn addasais y lliwiau i gynnwys presenoldeb Yemaya. 

June's BeesGwenyn June.
Darn yn seiliedig ar ddawns yw Gwenyn June ac er ein bod yn aml yn rhannu syniadau ar draws amrywiol ffurfiau celf, bu ciwiau gweledol y syniad hwn yn fwy amwys ac ar yr un pryd yn llai haniaethol. O ganlyniad, y cynllun hwn yw'r mwyaf llythrennol yn y set, yn ddarlun o wenynen. Tynnwyd y llun gwreiddiol ym Mharc Bute yn ystod y rali Black Lives Matter diweddar.

Niki's Billy MaBilly Ma Niki.
Ffigur enfawr yw Billy Ma Niki sy'n gofalu dros y gymuned yn ystod y cyfnod clo. Ysbrydolwyd syniad Niki gan lyfr i blant ac mae'n dipyn o ryddhad gan ei bod heb amheuaeth yn rhadlon ac yn ofalgar - ac yn lliwiau'r enfys. Yn y darlun gwreiddiol, hefyd yng Nghwm George, ceir dail wedi cwympo i bwll dŵr. Defnyddiais 'aneglurder symudiad bwriadol' i gael y strimynnau ac yna addasu rhai gosodiadau i'w droi'n lliwiau'r enfys.

Dechreuais weithio ym maes ffotograffiaeth yn gymharol ddiweddar (ac yn gymharol hwyr), gyda chyfarpar eithaf hen. Er yn ddigidol, rwy’n defnyddio rheolyddion â llaw yn hytrach na rhai awtomatig ac weithiau byddaf yn tynnu sawl llun cyn llwyddo ... Rwyf bellach wedi tynnu miloedd o luniau ac nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn iawn, er rwy’n gwella. 

Hefyd ni allaf weld yn bell yn dda iawn, felly rwy’n dueddol o sylwi ar ffurfiau yn hytrach na manylion, ac yn gyffredinol mae’n well gen i natur ar hap yn hytrach na strwythurau statig. 

Dechreuais ymddiddori mewn patrymau wrth geisio cywiro rhai lluniau ‘nad oedd modd eu defnyddio’. Weithiau, byddai fy ymdrechion golygu yn troi’r delweddau yn rhyw fath o ddarlun haniaethol.  

Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn delweddau ag amlinelliad ac onglau cryf a, thrwy adlewyrchu’r ddelwedd a phwytho copïau ohoni’n ddigidol, bu modd imi greu siapiau ar hap a oedd yn gymesur yn geometrig. Ailadroddir y siapiau hyn i greu patrwm a, thrwy arbrofi ymhellach, rwyf wedi cynhyrchu sawl cyfres wahanol o liwiau ar gyfer pob un. 

Fel rhan o’r prosiect hwn, bu trafodaethau parhaus ag 8 artist Carnifal lleol, yn gweithio gartref ar eu gwisg a’u syniadau am gymeriadau eu hunain: mae pob artist hefyd wedi ysgrifennu stori fer yn cyflwyno eu cymeriad a defnyddiais y sgyrsiau a’r straeon hyn fel sail i greu’r patrymau. 

Yn ogystal â thynnu lluniau newydd ar gyfer y prosiect hwn, tynnwyd rhai yn flaenorol a dewisodd rhai o’r artistiaid batrymau a fodolai eisoes, ac fe es i ati i weithio arnyn nhw ymhellach. 

Disgrifiad clywedol:

 

I wybod mwy am Keith Murrell a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event