Partner Busnes AD - Cyflogres/Systemau a Gweithrediadau AD 

Cyflog
£45,000 y flwyddyn
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
23.06.2025
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 11 June 2025

Mae WNO yn rhannu grym cerddoriaeth glasurol ac opera fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydym yn chwilio am Bartner Busnes AD profiadol i ymuno gyda’n tîm a chefnogi Pennaeth Pobl a Thrawsnewid wrth yrru trawsnewidiad llwyddiannus o’n systemau a gweithrediadau AD a Chyflogres. Bydd y rôl yma’n gweithio’n agos gyda rheolwyr a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod prosesau newydd yn cael eu darparu a’u mabwysiadu’n esmwyth.

Byddwch yn arwain rhoi systemau AD a Chyflogres estynedig ar waith, goruchwylio darparu prosesau effeithlon sy’n cydymffurfio, a rheoli tîm gweithrediadau AD bach. Mae hon yn rôl hanfodol i rywun sy’n ffynnu mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar newid ac sy’n angerddol dros wella systemau a gwasanaethau pobl.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Cyfrannu at brosiectau a mentrau AD mewn cydweithrediad gyda’r tîm Pobl a Diwylliant

  • Darparu cymorth AD cyffredinol ar draws y sefydliad

  • Cynorthwyo i roi systemau cyflogres a HRIS newydd ar waith

  • Hyfforddi ac arwain rheolwyr ar Bolisïau, Gweithdrefnau ac Arfer Da Adnoddau Dynol

  • Adolygu a chynnal polisïau a gweithdrefnau AD

  • Cynghori ar recriwtio a chynghori penodi rheolwyr gydag anghenion adnoddau

  • Rheoli achosion cysylltiadau gweithwyr cymhleth

  • Cefnogi gweithrediadau AD o ddydd i ddydd yn ôl y galw

  • Dadansoddi ac adrodd ar ddata pobl er mwyn cefnogi gwneud penderfyniadau

Beth sydd ei angen arnoch?

  • Profiad AD cyffredinolwr gyda dealltwriaeth dda o brosesau craidd AD

  • Y gallu amlwg i drafod, dwyn perswâd a dylanwadu ar randdeiliaid ar bob lefel

  • Profiad gyda rhoi systemau HRIS a chyflogres ar waith (iTrent yn ddymunol)

  • Hyder wrth drin perthnasoedd gweithwyr cymhleth a gweithio mewn amgylchedd lle mae undebau

  • Wedi cymhwyso gyda CIPD neu brofiad cyfwerth

  • Sgiliau trefnu a chyfathrebu cadarn, gyda’r gallu ymdopi gyda bod dan bwysau a chwrdd â therfynau amser

  • Agwedd ragweithiol, gydweithredol ac ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

  • Gwybodaeth dda o GDPR a gweithrediadau cyflogres

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.