On Par yn dathlu degawd!

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 11 March 2020

Dathlu pen-blwydd On Par yn 10 oed! 

Diolch i chi gyd am y cymorth dros y degawd diwethaf. Efallai ei fod yn dipyn o ystrydeb, ond am daith! Yn hytrach nag edrych yn ôl, rwyf i (Toby) am edrych tua’r dyfodol!

Dyma ddeg reswm pam rwy’n edrych ymlaen at ddyfodol On Par:

  1. Rydym wedi ail-frandio ac mae gennym wefan newydd sbon: Rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda Rich Chitty yn Ctrl Alt Design ac rydym yn hapus iawn gyda’r canlyniad. Cymerwch olwg.
  2. Mae’r holl dîm yn rhanddeiliaid yn y busnes: Mae gan Andrew, Sam a Simon gyfranddaliadau yn y busnes. Maen nhw’n bobl wych sy’n helpu i wthio’r busnes i gyfeiriad newydd a mwy mentrus. 
  3. Rydym ni’n fach ac yn falch: Mae ein tîm craidd yn cynnwys pedwar o bobl, ac rydym ni’n hapus â hynny! Gallwn fod yn gyflym ac yn ystwyth. Rydym am fod yn gwch cyflym yn union fel y mae sylfaenydd Hiut Denim yn ei awgrymu.
  4. Rydym yn dîm aml-dalentog: Peidiwch â synnu os bydd un ohonom yn ysgrifennu sgript, yna’n cyfarwyddo ac yn golygu! Os oes angen cymorth arnom, mae gennym ystod eang o weithwyr llawrydd talentog rydym yn gweithio gyda nhw.
  5. Astudio ffilm ddogfen: Os ydych yn ystyried dod yn gynhyrchydd ffilmiau, byddwn yn awgrymu astudio ffilm ddogfen oherwydd rydych yn dysgu i wneud popeth – datblygu syniadau, ffilmio, cynhyrchu, cyfarwyddo a golygu.
  6.  Mae On Par yn rhywle i greu a dysgu: Nid ydym am roi’r gorau i wthio ein hunain i wella o safbwynt technegol neu greadigol. Dywedodd Einstein yn well nag unrhyw un, “unwaith rydych yn rhoi’r gorau i ddysgu, rydych chi’n dechrau marw.” 
  7. Rydym yn falch o adrodd straeon: Dweud stori gyda sain a delweddau yw diben cynhyrchu ffilmiau. Mae’n grefft rydym bob amser yn ceisio ei meistroli. Rydym yn dda, ond byddwn o hyd yn ceisio bod yn well.
  8. Rwy’n cynhyrchu ffilmiau ar gyfer y teledu ac wrth fy modd: Rhoddais gyfranddaliadau i’r bobl oherwydd fy mod i’n cyfarwyddo fwyfwy o raglenni dogfen ar gyfer y teledu. Mae’n golygu fy mod i’n gwthio fy hun i fod yn gynhyrchydd ffilmiau gwell ym myd y teledu, ac mae hyn yn cael dylanwad cadarnhaol ar brosiectau On Par.
  9. Rydym yn dechrau cynllun mentora: Rydym yn cael ein boddi gan geisiadau am brofiad gwaith ond rydym wedi’i chael hi’n anodd erioed dod o hyd i’r ffordd orau o helpu. Felly rydym wedi penderfynu mentora pedwar o gynhyrchwyr ffilmiau dawnus yn ystod 2020. 
  10. Rydym am rannu gwybodaeth a’i throsglwyddo: Po fwyaf rwy’n ei ddysgu, y mwyaf y mae’r tîm yn ei ddysgu ac felly y mwyaf y gallant ei drosglwyddo i’r rhai sy’n cael eu mentora. Nid oes angen trosglwyddo gwybodaeth un ffordd a dyma reswm arall pam ein bod am weithio gyda’r mentoreion. Er ein bod yn ddeg oed, rydym am barhau i arloesi. 

Dymuniadau gorau, ac edrychwn ymlaen at ddeng mlynedd arall!

Toby Cameron

Sylfaenydd, On Par.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event