Paned i Ysbrydoli: Pwy sy'n ofni rhedeg digwyddiad cerddorol?

03/10/2024 - 14:00
The Station - Tramshed Tech
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â'r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.

Paned i Ysbrydoli Hydref: Pwy sy'n ofni rhedeg digwyddiad cerddorol?

Mae wedi bod yn ychydig fisoedd cyffrous i gerddoriaeth yng Nghaerdydd gyda haf llawn dop o berfformiadau byw yn ein stadiwm, castell, arena a lleoliadau cerddoriaeth llawr gwlad. Mae pethau ar fin mynd yn fwy prysur fyth wrth i fis Hydref nodi Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd sy’n cynnwys Llais, y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a Gŵyl Sŵn.

Fel dilynwyr cerddoriaeth, mae'n aml yn anodd dychmygu'r holl waith cynllunio sy'n mynd mewn er mwyn cynnal y digwyddiadau cerddoriaeth fyw hyn. Ond beth sydd ei angen mewn gwirionedd i drefnu digwyddiad cerddorol llwyddiannus? Pa gamau sydd angen i ni eu dilyn i sicrhau bod pethau'n rhedeg yn esmwyth? A beth ydyn ni'n ei wneud os nad ydyn nhw? Ymunwch â ni yn y Paned i Ysbrydoli yma wrth i ni ofyn 'Pwy sydd ofn trefnu digwyddiad cerddorol?' gyda Bethan Jones-Ollerton.

Mae Bethan yn un o drefnwyr Tafwyl, digwyddiad blynyddol sydd bellach yn cael ei gynnal ym Mharc Bute. Mae’r ŵyl ddiwylliannol Gymraeg yn dod â phobl greadigol at ei gilydd i ddathlu cerddoriaeth, iaith a diwylliant Cymreig o fewn y brifddinas ac yn cynnig llwyfan i berfformwyr Cymraeg cymryd y llwyfan drwy gydol y digwyddiad deuddydd hwn. Mae Bethan hefyd yn perfformio comedi stand-yp o dan yr enw Beth Jones, dwy bersonoliaeth fel Clark Kent ond yn lle sbectol fe dynnodd Beth yr 'an' i guddio ei hunaniaeth!

Cofrestru ar gyfer y digwyddiad. 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event