Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu a dysgu gan bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau, yn ein Paned i Ysbrydoli misol.
Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal digwyddiad ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o’r enw Paned i Ysbrydoli. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â'r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.
Mae pob digwyddiad Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs arddull 'TED-talk' ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth, a datgelu cyfleoedd newydd.
Thema mis Mawrth: Creu cynnwys dwyieithog
Ymunwch â ni ar gyfer Paned i Ysbrydoli mis Mawrth yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter yn Nhreganna, lle byddwn yn archwilio’r thema ‘Creu Cynnwys Dwyieithog gyda Dr Helen Davies.
Mae Dr Helen Davies yn brofiadol yn y diwydiant sgrin a'n ymchwilydd academaidd dwyieithog gyda dros ddeuddeg mlynedd o brofiad o weithio yn y Diwydiannau Creadigol. Ar hyn o bryd mae Helen yn gweithio fel Rheolwr Prosiect Ymchwil a Datblygu i’r cwmni cynhyrchu Triongl gan arwain tîm datblygu a dylunio sy’n gweithio ar dechnoleg arloesol ar gyfer y diwydiant sgrin. Fel cwmni cynhyrchu sy’n arbenigo mewn cynhyrchu drama gefn wrth gefn, y broses o gynhyrchu cyfresi Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd, rydyn ni'n credu mai arloesi yw’r allwedd i gynnal sector diwydiant creadigol bywiog yng Nghymru.