Paned i Ysbrydoli: Mai (Caerdydd)

17/05/2024 - 10:00
Tramshed Tech, Cardiff
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â'r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu â dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.

Paned i Ysbrydoli mis Mai: Pwy sy'n ofni rheoli digwyddiadau?

Mae'r haf yn prysur agosáu, sy'n golygu y bydd amrywiaeth o wyliau, gigs a digwyddiadau yn cymryd drosodd y ddinas cyn bo hir. Fel mynychwyr, mae'n aml yn anodd dychmygu'r holl waith sy'n cael ei wneud er mwyn i'r digwyddiadau diwylliannol hyn ddigwydd. Ond beth sydd ei angen mewn gwirionedd i drefnu digwyddiad llwyddiannus? Pa gamau sydd angen i ni eu dilyn i sicrhau bod pethau'n rhedeg yn esmwyth? A beth ydyn ni'n ei wneud os nad ydyn nhw? P'un a ydych yn agosáu at eich digwyddiad cyntaf neu'n dymuno gloywi eich sgiliau rheoli digwyddiadau, ymunwch â ni yn y Paned i Ysbrydoli hon wrth i ni ofyn 'Pwy sy'n ofni rheoli digwyddiadau?'.

I gychwyn y drafodaeth, bydd Corey Bullock, Rheolwr Llogi Masnachol Amgueddfa Cymru yn ymuno â ni. Cyn ei swydd bresennol yn Amgueddfa Cymru, mae Corey wedi treulio degawd yn gweithio mewn lleoliadau celfyddydol a pherfformio gan gynnwys Theatr y Torch, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Theatr y Sherman, gan weithio ar draws Blaen y Tŷ, Marchnata, Rhaglennu, Cynhyrchu a Llogi Lleoliad. O gynadleddau i gyngherddau a gweithdai i briodasau, mae’n annhebygol y bydd digwyddiad nad yw wedi’i reoli o leiaf unwaith!

Cofrestru.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event