
Ymunwch â ni i gwrdd, cysylltu a dysgu gan pobl greadigol eraill, boed eich bod newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau, yn ein Paned i Ysbrydoli misol.
Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal Paned i Ysbrydoli, sef cyfle i artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol ddod ynghyd. Mae’r digwyddiadau anffurfiol hyn yn dod â’r gymuned greadigol ynghyd ar gyfer y tri C pwysig – cysylltu, creadigrwydd a chaffein.
Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs ardull 'TED-talk' ar bwnc sy’n berthnasol ar draws pob sector creadigol, ac yna awr anffurfiol i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth ac archwilio cyfleoedd newydd.
Thema Ebrill: Gweithio'n llawrydd
Ymunwch â ni ar gyfer Paned i Ysbrydoli mis Ebrill yn Tramshed Tech, lle byddwn yn archwilio’r thema ‘Dod yn weithiwr llawrydd’ gyda Krystal Lowe. Bydd Krystal yn rhannu mewnwelediadau o’i thaith fel artist amlddisgyblaethol llawrydd, gan gynnig safbwyntiau gwerthfawr ar lywio annibyniaeth greadigol, adeiladu gyrfa gynaliadwy, ac integreiddio hunaniaeth bersonol i waith proffesiynol.
Fel artist o Bermuda sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru, mae gwaith Krystal yn ymestyn ar draws theatr ddawns, perfformiad cyhoeddus a ffilm. Mae ganddi angerdd dros hunaniaeth ryngadrannol, iechyd meddwl a grymuso, ac mae ei hymarfer creadigol yn annog myfyrdod a newid cymdeithasol. Mae Krystal hefyd yn ymrwymo i integreiddio hygyrchedd yn ei gwaith, yn enwedig trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL), Cymraeg a Saesneg.