Operasonic: Gyrfaoedd mewn cerddoriaeth

08/12/2023 - 10:00
The Place 10 Bridge Street #9 Newport NP20 4AL
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Gyrfaoedd allan o'r bocs mewn cerddoriaeth - ymunwch ag Operasonic i glywed gan ystod o weithwyr proffesiynol cerddoriaeth ac archwiliwch lwybrau i yrfaoedd sy'n cynnwys cerddoriaeth na fyddech efallai wedi meddwl amdanynt! Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau blasu a thrafodaeth panel, gan gynnwys cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y diwydiant gemau, cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu a llawer mwy.

Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.

Archebwch eich lle. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.