Os maent ar gael, hysbysebir cyfleoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Nid yw Caerdydd Creadigol yn gyfrifol am ddewis iaith hysbysebwyr allanol.
Rheolwr Y Gweithdy

Postiwyd gan: shermantheatre
RHEOLWR Y GWEITHDY
£30,851 y flwyddyn
LLAWN AMSER, PARHAOL
Mae Theatr y Sherman, Caerdydd, yn chwilio am Reolwr Gweithdy newydd i arwain ar waith adeiladu a gorffen setiau ar gyfer ei holl gynyrchiadau. Mae’r swydd yn cwmpasu ystod eang o ddyletswyddau, a bydd angen i’r unigolyn a benodir fod yn frwdfrydig ac yn awyddus, gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog.
Reviews Editor: Poetry Wales

Postiwyd gan: Poetry Wales
Poetry Wales are looking for a Reviews Editor to commission and edit reviews of poetry collections from around the world.
Adnabod Aflonyddu

Postiwyd gan: cult_cymru
Erbyn diwedd y sesiwn hon dylai cyfranogwyr allu:
• Deall y gwahaniaethau rhwng bwlio ac aflonyddu
• Adnabod bwlio ac aflonyddu (amlwg ac anamlwg)
Bydd y blaendal yn cael ei ad-dalu wedi'r cwrs.
Swyddog Cyfathrebu
Postiwyd gan: Older-People
Ydych chi’n gyfathrebwr creadigol gyda’r ddawn i ysgrifennu cynnwys diddorol?
Byddwch yn creu cynnwys ysgogol ar gyfer amrywiaeth o sianeli cyfathrebu, gan gynnwys cyfryngau print, cyfryngau cymdeithasol a gwefan y Comisiynydd sy’n codi ymwybyddiaeth o rôl a gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Technegydd Cynhyrchu (Clywedol a Sain)

Postiwyd gan: Production78
Dyletswyddau Craidd
Bydd rôl y Technegydd Cynhyrchu yn cynnwys darparu cymorth technegol cynhyrchu yn ein dwy swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y broses gynllunio ac allan ar y safle yn ystod digwyddiadau, cynllunio, dylunio ac amserlennu digwyddiadau, cydlynu staffio, contractio ac amserlennu isgontractwyr, datrys problemau, archebu lleoliad, cysylltu â chleientiaid a monitro cyllideb, i sicrhau bod pob digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.
Manyleb Swydd
Technegydd Warws a Chynhyrchu

Postiwyd gan: Production78
Dyletswyddau Craidd
Bydd rôl Technegydd Warws a Chynhyrchu yn cynnwys darparu cymorth technegol warws a chynhyrchu yn ein swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod y broses gynllunio ac allan ar y safle yn ystod digwyddiadau; cynorthwyo gyda chynllunio, cynnal a chadw, profi, paratoi a dosbarthu'r holl offer sy'n eiddo i'r cwmni. Cynorthwyo i gontractio ac amserlennu isgontractwyr, cyflenwyr, delio ag ymholiadau cleientiaid a datrys problemau i sicrhau bod pob digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.
Manyleb Swydd
Swyddog Marchnata

Postiwyd gan: shermantheatre
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Swyddog Marchnata i ymuno â'i thîm Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu deinamig sy'n cyflawni i lefel uchel. Bydd y Swyddog Marchnata yn cefnogi gwaith Theatr y Sherman i gysylltu â chynulleidfaoedd ar draws y de-ddwyrain a’r tu hwnt ac i greu incwm.
Cynigir y swydd hon fel swydd lawn amser, barhaol.
Dyddiad cau: canol dydd ddydd Mawrth 13 Mai 2025
Cyfweliad: dydd Mercher 28 Mai 2025
Rheolwr Marchnata

Postiwyd gan: shermantheatre
Mae Theatr y Sherman yn dymuno penodi Rheolwr Marchnata i ymuno â'i thîm Cynulleidfaoedd a Chyfathrebu deinamig sy'n cyflawni i lefel uchel. Bydd y Rheolwr Marchnata yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gysylltu â chynulleidfaoedd yn y de-ddwyain a’r tu hwnt, gan gynyddu incwm ac adrodd stori’r theatr gynhyrchu flaenllaw yma.
Cynigir y swydd hon fel swydd lawn amser, barhaol.
Dyddiad cau: canol dydd ddydd Mawrth 13 Mai 2025
Cyfweliad: dydd Mercher 21 Mai 2025
Curaduron Cynorthwyol

Postiwyd gan: Artes Mundi
Rydyn ni am benodi dau Guradur Cynorthwyol.
Bydd y Curaduron Cynorthwyol yn gweithio gyda thîm Artes Mundi i gynllunio a chyflwyno arddangosfa AM11, sydd ar y gweill ac sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd.
Yn benodol, byddant yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr ym mhob agwedd ar gyflwyno’r rhaglen, yn arbennig cydlynu a pharatoi arddangosfeydd, cynllunio gosodiadau, monitro cyllidebau a chyfrannu at ddigwyddiadau a mentrau rhaglennu cyhoeddus.
Uwch Reolwr/wraig Codi Arian

Postiwyd gan: WalesMillenniu…
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Uwch Reolwr/wraig Codi Arian
Cyflog: £39,567 - £41,651
Oriau Gwaith: 35 awr (Llawn Amser)
Math o Gytundeb: Parhaol
Dyddiad Cau: 16/05/2025
Dyddiad Cyfweld: wythnos yn cychwyn 19 Mai