Trosolwg:
Mae Caerdydd Creadigol am gomisiynu 4 artist i ddylunio fersiwn o logo Caerdydd Creadigol, i'w ddefnyddio ar gyfres o asedau i nodi ein pen-blwydd yn 10 oed a thu hwnt. Bydd hyn yn cynnwys ei ddefnyddio ar-lein (gwefan, cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyr), mewn print (nwyddau, posteri a thaflenni) a'i gynnwys mewn cyflwyniadau ac mewn digwyddiadau y tu hwnt i'n 10fed flwyddyn.
Bydd dimensiynau ac amlinelliad yn cael eu darparu gan Gaerdydd Creadigol ac rydym yn gofyn i artistiaid weithio o fewn yr amlinelliad hwn i gynhyrchu dehongliad creadigol digidol o'r logo i adlewyrchu un o brif linynnau gwaith gweithgaredd Caerdydd Creadigol.
Y pedwar llinyn gwaith yw Cysylltiedig, Cydweithredol, Creadigol, Caerdydd. Mae diffiniadau o'r llinynnau hyn isod, a rhaid i chi nodi pa un o'r pedwar llinyn y bydd eich dyluniad yn ei gynrychioli yn eich cais.
Cefndir:
Mae Caerdydd Creadigol wedi cyflawni nifer o weithgareddau comisiynu artistig dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys 'Ein Caerdydd Creadigol' – prosiect adrodd straeon digidol a gynlluniwyd i arddangos sector creadigol y ddinas yn 2020 – ac 'Ein Lle Creadigol' yn 2021, a ddaeth â naratif y gymuned greadigol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd a'i ddatblygu, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru. Hefyd, lansiwyd 'Comisiwn Logo' yn 2023, comisiwn Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn 2024, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau, Dyniaethau ac Ymchwil a'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac, yn fwyaf diweddar, comisiynau Gwyrddio Cathays mewn partneriaeth ag Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd.
Gyda'i gilydd, cefnogodd y gwaith hwn 62 o artistiaid lleol a rhoi dros £80,000 yn ôl i'r gymuned greadigol yn Ne Cymru, yn ogystal ag adeiladu partneriaethau a chydweithrediadau newydd.
I nodi ein pen-blwydd yn 10 oed yn 2025, mae Caerdydd Creadigol bellach yn ceisio adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn trwy ddarparu cyfle comisiynu pellach i artistiaid a phobl greadigol lleol a chysylltu hyn yn uniongyrchol â'n hunaniaeth a'n brand heddiw. Nod y gwaith hwn yw dal yr hyn y mae Caerdydd Creadigol yn ei olygu - cysylltu artistiaid, cydweithio â'r gymuned a hyrwyddo pobl greadigol leol.
Y comisiwn:
Rydym yn ceisio comisiynu ystod amrywiol o ymarferwyr creadigol sy'n gweithio yn y ddinas i gynhyrchu gwaith digidol creadigol sy'n adlewyrchu'r hyn y mae Caerdydd Creadigol yn ei olygu iddynt.
Rydym yn chwilio am syniadau sy'n gweithio gyda dimensiynau'r logo i naill ai:
-
Darlunio’r ddinas yn weithredol ac yn ystyrlon – ei lleoliadau, ei thirnodau, ei mannau gwyrdd, ei phensaernïaeth drefol – a’r bobl sy’n ei phoblogi
-
Adlewyrchu hunaniaeth cymunedau creadigol amrywiol Caerdydd – y presennol a’r dyfodol
-
Adlewyrchu amrywiaeth y sectorau creadigol sy'n ffynnu yn y ddinas
-
Yn dangos beth mae creadigrwydd Caerdydd yn ei olygu i chi
Mae gennym bedwar comisiwn ar gael, un i gynrychioli'n ddigidol bob un o'r llinynnau gweithgaredd isod ar gyfer Caerdydd Creadigol:
-
Comisiwn 1: Cysylltu: Mae Caerdydd Creadigol yn cysylltu pobl greadigol o amrywiaeth o sectorau a disgyblaethau, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
-
Comisiwn 2: Cydweithio: Rydym yn cydweithio â diwydiant, busnes, llywodraeth ac academia i annog syniadau newydd a allai gefnogi a thyfu'r sector.
-
Comisiwn 3: Creadigol: Yn ein craidd, rhwydwaith llawr gwlad ydym ni – rydym ni ar gyfer, a gyda, chymuned greadigol y ddinas. Rydym ni’n bodoli i ddod â phobl greadigol ynghyd o bob cwr o ranbarth Caerdydd ac i adrodd stori greadigol Caerdydd drwy ein gweithgaredd cyfathrebu.
-
Comisiwn 4: Caerdydd: Fel rhwydwaith sy'n seiliedig ar leoedd, mae pobl, mannau ac iaith Caerdydd a'r rhanbarth* wedi'u gwreiddio'n ddwfn ym mhopeth a wnawn.
*Mae rhanbarth Caerdydd yn cynnwys deg ardal awdurdod lleol sy'n cwmpasu De-ddwyrain Cymru. Y rhain yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.
Bydd gweithiau comisiwn yn helpu i ddatblygu a llunio ein hunaniaeth a'n brand, a sut rydym yn cysylltu â'r bobl greadigol ar ein rhwydwaith.
Beth fydd yn digwydd i'r dyluniadau:
Bydd pob dyluniad yn cael ei rannu mewn digwyddiadau i nodi ein pen-blwydd yn 10 oed ar ein gwefan, yn ein cylchlythyr ac ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol. Falle fydd y dyluniadau hefyd yn cael ei argraffu ar nwyddau a thaflenni hefyd.
Hoffai Caerdydd Creadigol ddefnyddio'r dyluniadau hyn y tu hwnt i'n 10fed flwyddyn, i helpu i ddangos, cyfathrebu a diffinio ein gweithgaredd yn y dyfodol. Ar ôl i artistiaid gael eu dewis, bydd hyd y defnydd yn cael ei gytuno'n ffurfiol rhwng yr artist a Chaerdydd Creadigol.
Hoffem hefyd ddathlu a hyrwyddo'r artistiaid sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y comisiwn hwn, trwy rannu cyfweliadau gyda'r artistiaid, cynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwahodd yr artistiaid i'n gweithgaredd dathlu pen-blwydd yn 10 oed.
Fformat:
Dylai'r allbwn creadigol ar gyfer artistiaid a gomisiynir fod yn weledol ei gwmpas yn bennaf a'i ddarparu mewn fformat digidol.
Yn ogystal â dyluniad eich logo, hoffem becyn brand ar raddfa fach i gyd-fynd â'ch dyluniad:
Dylai'r rhain fod -
8-10 Ased syml ar ffurf ‘Vector’ / Elfennau ‘Cipart PNG Clipart'
-
Elfennau darluniadol neu ddigidol safon uchel wedi'u darlunio
-
Iaith weledol gyson o fewn eich llinyn gwaith dewisol yn eich steil
-
Fformatau addas ar gyfer defnydd gwe, print a chyfryngau cymdeithasol (e.e., PNGs tryloyw, SVGs)
-
Delweddau sy'n ategu brand ac asedau presennol Caerdydd Creadigol (bydd pecyn brand Caerdydd Creadigol yn cael ei rannu ag artistiaid llwyddiannus cyn i'r gwaith dylunio ddechrau)
Dau enghraifft o sut olwg allai fod ar eich pecyn elfennau.
Yn ddelfrydol, dylai gweithiau hefyd adlewyrchu hunaniaeth brand y ddinas a Chaerdydd Creadigol.
Sut i wneud cais:
Rydym yn gofyn i ymgeiswyr anfon cais byr atom, gan ateb y cwestiynau canlynol:
-
Dywedwch wrthym am eich gwaith blaenorol, gydag enghreifftiau neu ddolenni i waith blaenorol, e.e. gwefan neu bortffolio (uchafswm o 300 gair)
-
Dywedwch wrthym am eich syniad a sut mae'n berthnasol i Gaerdydd Creadigol, ac un o'n pileri (Cysylltiedig, Cydweithredol, Creadigol neu Gaerdydd) (uchafswm o 500 gair)
-
Os gallwch chi, darparwch 2 cyswllt am eirda y gallwn gysylltu â nhw i ofyn iddyn nhw am eich gwaith, neu os yw'n well gennych chi - rhannwch eich cyfryngau cymdeithasol
Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl greadigol a graddedigion sy'n dod i'r amlwg a'r rhai sy'n byw y tu allan i Gaerdydd, ar draws y rhanbarth ehangach.
Anfonwch eich ceisiadau at creativecardiff@caerdydd.ac.uk gyda'r llinell bwnc 'Comisiwn (1, 2, 3 neu 4 – yn seiliedig ar y llinyn rydych chi wedi'i dewis): Comisiwn Pen-blwydd Caerdydd Creadigol' erbyn dydd Mawrth 1 Gorffennaf 12:00.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau fideo a cheisiadau yn y Gymraeg.
Amserlen:
Gweithgaredd |
Dyddiad cau |
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
1 Gorffennaf 2025 |
Cysylltu â’r artistiaid llwyddiannus |
Canol mis Gorffennaf 2025 |
Dyluniadau yn barod erbyn |
29 Awst 2025 |
Dyluniadau yn cael ei rannu |
Tymor yr Hydref 2025 |