Comisiwn Pen-blwydd Caerdydd Creadigol yn 10 oed – Cynnig Amlinellol

Cyflog
£700 per commission
Closing date
01.07.2025
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 June 2025

Trosolwg: 

Mae Caerdydd Creadigol am gomisiynu 4 artist i ddylunio fersiwn o logo Caerdydd Creadigol, i'w ddefnyddio ar gyfres o asedau i nodi ein pen-blwydd yn 10 oed a thu hwnt. Bydd hyn yn cynnwys ei ddefnyddio ar-lein (gwefan, cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyr), mewn print (nwyddau, posteri a thaflenni) a'i gynnwys mewn cyflwyniadau ac mewn digwyddiadau y tu hwnt i'n 10fed flwyddyn. 

Bydd dimensiynau ac amlinelliad yn cael eu darparu gan Gaerdydd Creadigol ac rydym yn gofyn i artistiaid weithio o fewn yr amlinelliad hwn i gynhyrchu dehongliad creadigol digidol o'r logo i adlewyrchu un o brif linynnau gwaith gweithgaredd Caerdydd Creadigol. 

Y pedwar llinyn gwaith yw Cysylltiedig, Cydweithredol, Creadigol, Caerdydd. Mae diffiniadau o'r llinynnau hyn isod, a rhaid i chi nodi pa un o'r pedwar llinyn y bydd eich dyluniad yn ei gynrychioli yn eich cais. 

Cefndir: 

Mae Caerdydd Creadigol wedi cyflawni nifer o weithgareddau comisiynu artistig dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys 'Ein Caerdydd Creadigol' – prosiect adrodd straeon digidol a gynlluniwyd i arddangos sector creadigol y ddinas yn 2020 – ac 'Ein Lle Creadigol' yn 2021, a ddaeth â naratif y gymuned greadigol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ynghyd a'i ddatblygu, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru. Hefyd, lansiwyd 'Comisiwn Logo' yn 2023, comisiwn Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn 2024, a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau, Dyniaethau ac Ymchwil a'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac, yn fwyaf diweddar, comisiynau Gwyrddio Cathays mewn partneriaeth ag Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd. 

Gyda'i gilydd, cefnogodd y gwaith hwn 62 o artistiaid lleol a rhoi dros £80,000 yn ôl i'r gymuned greadigol yn Ne Cymru, yn ogystal ag adeiladu partneriaethau a chydweithrediadau newydd. 

I nodi ein pen-blwydd yn 10 oed yn 2025, mae Caerdydd Creadigol bellach yn ceisio adeiladu ar lwyddiant y gwaith hwn trwy ddarparu cyfle comisiynu pellach i artistiaid a phobl greadigol lleol a chysylltu hyn yn uniongyrchol â'n hunaniaeth a'n brand heddiw. Nod y gwaith hwn yw dal yr hyn y mae Caerdydd Creadigol yn ei olygu - cysylltu artistiaid, cydweithio â'r gymuned a hyrwyddo pobl greadigol leol. 

Y comisiwn:  

Rydym yn ceisio comisiynu ystod amrywiol o ymarferwyr creadigol sy'n gweithio yn y ddinas i gynhyrchu gwaith digidol creadigol sy'n adlewyrchu'r hyn y mae Caerdydd Creadigol yn ei olygu iddynt. 

Rydym yn chwilio am syniadau sy'n gweithio gyda dimensiynau'r logo i naill ai: 

  • Darlunio’r ddinas yn weithredol ac yn ystyrlon – ei lleoliadau, ei thirnodau, ei mannau gwyrdd, ei phensaernïaeth drefol – a’r bobl sy’n ei phoblogi 

  • Adlewyrchu hunaniaeth cymunedau creadigol amrywiol Caerdydd – y presennol a’r dyfodol 

  • Adlewyrchu amrywiaeth y sectorau creadigol sy'n ffynnu yn y ddinas 

  • Yn dangos beth mae creadigrwydd Caerdydd yn ei olygu i chi 

Mae gennym bedwar comisiwn ar gael, un i gynrychioli'n ddigidol bob un o'r llinynnau gweithgaredd isod ar gyfer Caerdydd Creadigol: 

  1. Comisiwn 1: Cysylltu: Mae Caerdydd Creadigol yn cysylltu pobl greadigol o amrywiaeth o sectorau a disgyblaethau, ar-lein ac wyneb yn wyneb. 

  1. Comisiwn 2: Cydweithio: Rydym yn cydweithio â diwydiant, busnes, llywodraeth ac academia i annog syniadau newydd a allai gefnogi a thyfu'r sector. 

  1. Comisiwn 3: Creadigol: Yn ein craidd, rhwydwaith llawr gwlad ydym ni – rydym ni ar gyfer, a gyda, chymuned greadigol y ddinas. Rydym ni’n bodoli i ddod â phobl greadigol ynghyd o bob cwr o ranbarth Caerdydd ac i adrodd stori greadigol Caerdydd drwy ein gweithgaredd cyfathrebu. 

  1. Comisiwn 4: Caerdydd: Fel rhwydwaith sy'n seiliedig ar leoedd, mae pobl, mannau ac iaith Caerdydd a'r rhanbarth* wedi'u gwreiddio'n ddwfn ym mhopeth a wnawn. 
     
    *Mae rhanbarth Caerdydd yn cynnwys deg ardal awdurdod lleol sy'n cwmpasu De-ddwyrain Cymru. Y rhain yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Bydd gweithiau comisiwn yn helpu i ddatblygu a llunio ein hunaniaeth a'n brand, a sut rydym yn cysylltu â'r bobl greadigol ar ein rhwydwaith. 

Beth fydd yn digwydd i'r dyluniadau: 

Bydd pob dyluniad yn cael ei rannu mewn digwyddiadau i nodi ein pen-blwydd yn 10 oed ar ein gwefan, yn ein cylchlythyr ac ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol. Falle fydd y dyluniadau hefyd yn cael ei argraffu ar nwyddau a thaflenni hefyd. 

Hoffai Caerdydd Creadigol ddefnyddio'r dyluniadau hyn y tu hwnt i'n 10fed flwyddyn, i helpu i ddangos, cyfathrebu a diffinio ein gweithgaredd yn y dyfodol. Ar ôl i artistiaid gael eu dewis, bydd hyd y defnydd yn cael ei gytuno'n ffurfiol rhwng yr artist a Chaerdydd Creadigol. 

Hoffem hefyd ddathlu a hyrwyddo'r artistiaid sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y comisiwn hwn, trwy rannu cyfweliadau gyda'r artistiaid, cynnwys cyfryngau cymdeithasol a gwahodd yr artistiaid i'n gweithgaredd dathlu pen-blwydd yn 10 oed. 

Fformat: 

Dylai'r allbwn creadigol ar gyfer artistiaid a gomisiynir fod yn weledol ei gwmpas yn bennaf a'i ddarparu mewn fformat digidol.   

Yn ogystal â dyluniad eich logo, hoffem becyn brand ar raddfa fach i gyd-fynd â'ch dyluniad:   

Dylai'r rhain fod - 

8-10 Ased syml ar ffurf ‘Vector’ / Elfennau ‘Cipart PNG Clipart' 

  • Elfennau darluniadol neu ddigidol safon uchel wedi'u darlunio 

  • Iaith weledol gyson o fewn eich llinyn gwaith dewisol yn eich steil 

  • Fformatau addas ar gyfer defnydd gwe, print a chyfryngau cymdeithasol (e.e., PNGs tryloyw, SVGs) 

  • Delweddau sy'n ategu brand ac asedau presennol Caerdydd Creadigol (bydd pecyn brand Caerdydd Creadigol yn cael ei rannu ag artistiaid llwyddiannus cyn i'r gwaith dylunio ddechrau) 

Dau enghraifft o sut olwg allai fod ar eich pecyn elfennau. 

 

An example of element pack An example of element pack

Yn ddelfrydol, dylai gweithiau hefyd adlewyrchu hunaniaeth brand y ddinas a Chaerdydd Creadigol. 

Sut i wneud cais: 

Rydym yn gofyn i ymgeiswyr anfon cais byr atom, gan ateb y cwestiynau canlynol: 

  1. Dywedwch wrthym am eich gwaith blaenorol, gydag enghreifftiau neu ddolenni i waith blaenorol, e.e. gwefan neu bortffolio (uchafswm o 300 gair) 

  1. Dywedwch wrthym am eich syniad a sut mae'n berthnasol i Gaerdydd Creadigol, ac un o'n pileri (Cysylltiedig, Cydweithredol, Creadigol neu Gaerdydd) (uchafswm o 500 gair) 

  2. Os gallwch chi, darparwch 2 cyswllt am eirda y gallwn gysylltu â nhw i ofyn iddyn nhw am eich gwaith, neu os yw'n well gennych chi - rhannwch eich cyfryngau cymdeithasol 

Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl greadigol a graddedigion sy'n dod i'r amlwg a'r rhai sy'n byw y tu allan i Gaerdydd, ar draws y rhanbarth ehangach. 

Anfonwch eich ceisiadau at creativecardiff@caerdydd.ac.uk gyda'r llinell bwnc 'Comisiwn (1, 2, 3 neu 4 – yn seiliedig ar y llinyn rydych chi wedi'i dewis): Comisiwn Pen-blwydd Caerdydd Creadigol' erbyn dydd Mawrth 1 Gorffennaf 12:00. 

Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau fideo a cheisiadau yn y Gymraeg. 

Amserlen:

Gweithgaredd 

Dyddiad cau 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 

1 Gorffennaf 2025 

Cysylltu â’r artistiaid llwyddiannus  

Canol mis Gorffennaf 2025 

Dyluniadau yn barod erbyn 

29 Awst 2025 

Dyluniadau yn cael ei rannu 

Tymor yr Hydref 2025 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.