Gwyrddio Cathays: Dewch i gysylltu â natur yn Cathays

Mae Caerdydd Creadigol ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect ‘Pharmabees’ Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd ar ‘Greening Cathays’, sy’n cynnwys 7 comisiwn gan artistiaid.

Ariennir gyda chymorth Cyngor Dinas Caerdydd drwy’r Gronfa Ffyniant Cyffredin.

An image if a bumble bee

I ddathlu dechrau’r gwanwyn yn Cathays, ymunwch â ni am gyfres o ddigwyddiadau sy’n rhoi cyfle i gysylltu â’r anifeiliaid, y planhigion a’r bobl sy’n byw yn y lle bywiog hwn.

Rhan o brosiect Gwyrddio Cathays, wedi ei gynnal mewn cydweithrediad a Caerdydd Creadigol ac wedi ei ariannu gan Gyngor Caerdydd.

Arddangosfa: 17 i 19 Mawrth

Rhwng 17 a 19 Mawrth (10am-4pm), byddwn ni’n cynnal arddangosfa dros dro yng nghyntedd Adeilad Hadyn Ellis ar Heol Maendy.

Bydd yr arddangosfa’n tynnu sylw at sefyllfa heriol peillwyr, effaith newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd bywyd gwyllt lleol.  Dewch i weld sut beth yw bod y tu mewn i gwch gwenyn drwy gyfrwng realiti rhithwir, gan gynnwys cael gwybod rhagor am y draenogod sy’n byw yn yr ardal (gwyliwch y fideo bywyd gwyllt) a’r gwaith sy’n cael ei wneud i greu campws sy’n gyfeillgar i ddraenogod.

Hedgehog image

Gallwch chi weld y byd drwy lygaid gwenyn, cael cipolwg ar ein prosiect gwyddoniaeth dinasyddion o’r enw Spot-a-Bee a dysgu sut mae ein prosiect coed hylif yn defnyddio technoleg o'r orsaf ofod ryngwladol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Gallwch chi hefyd weld gwaith celf plant ysgol lleol a'n helpu i ddewis y delweddau a fydd yn ymddangos ar y llwybr gwenyn sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.

Yn olaf, dyma gyfle gwych i gwrdd â thîm Pharmabees a’r tîm Campws Cyfeillgar i Ddraenogod a dysgu sut y gallwch chi gymryd rhan er mwyn cefnogi natur yn Cathays.

Dysgu mwy am y gwaith: 22 Mawrth

Ar 22 Mawrth rhwng 1pm a 4pm, ymunwch â'ch cyd-drigolion yng nghyntedd Theatr y Sherman ar Ffordd Senghennydd i gael gwybod am waith grwpiau gwirfoddol i gefnogi natur yn Cathays a'i wneud yn lle mwy braf i fyw.

Digwyddiad plannu coed: 27 Mawrth

Ar 27 Mawrth (10am-12pm), ychydig cyn Pythefnos Cynaliadwyedd y Brifysgol (1-11 Ebrill), byddwn ni’n cynnal digwyddiad plannu coed cymunedol dan arweiniad Coed Caerdydd yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ar gampws Parc Cathays. I ddod i’r digwyddiad, cofrestrwch drwy Eventbrite.

I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn, cysylltwch â Les Baillie drwy e-bostio Bailliel@caerdydd.ac.uk.

Mae'r gweithgareddau hyn yn bosibl oherwydd cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Comisiynau Artistiaid Gwyrddio Cathays 

Nod y fenter gyffrous hon, a ariennir gyda chefnogaeth gan Gyngor Dinas Caerdydd drwy'r Gronfa Rhannu Ffyniant, yw dod â chymunedau at ei gilydd trwy greu amgylchedd trefol llawn natur a fydd yn cefnogi bioamrywiaeth, yn ailfywiogi mannau cyhoeddus trwy greadigrwydd ac yn caniatáu i drigolion amrywiol gysylltu â'r byd naturiol, ac â'i gilydd. 

Rydym yn falch iawn o weithio gyda'r artistiaid lleol gwych hyn i gyflwyno eu cynigion uchelgeisiol yn Cathays fel rhan o 'Pharmabees', rhagor o wybodaeth am y prosiect.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event