I ddathlu dechrau’r gwanwyn yn Cathays, ymunwch â ni am gyfres o ddigwyddiadau sy’n rhoi cyfle i gysylltu â’r anifeiliaid, y planhigion a’r bobl sy’n byw yn y lle bywiog hwn.
Rhan o brosiect Gwyrddio Cathays, wedi ei gynnal mewn cydweithrediad a Caerdydd Creadigol ac wedi ei ariannu gan Gyngor Caerdydd.
Arddangosfa: 17 i 19 Mawrth
Rhwng 17 a 19 Mawrth (10am-4pm), byddwn ni’n cynnal arddangosfa dros dro yng nghyntedd Adeilad Hadyn Ellis ar Heol Maendy.
Bydd yr arddangosfa’n tynnu sylw at sefyllfa heriol peillwyr, effaith newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd bywyd gwyllt lleol. Dewch i weld sut beth yw bod y tu mewn i gwch gwenyn drwy gyfrwng realiti rhithwir, gan gynnwys cael gwybod rhagor am y draenogod sy’n byw yn yr ardal (gwyliwch y fideo bywyd gwyllt) a’r gwaith sy’n cael ei wneud i greu campws sy’n gyfeillgar i ddraenogod.
Gallwch chi weld y byd drwy lygaid gwenyn, cael cipolwg ar ein prosiect gwyddoniaeth dinasyddion o’r enw Spot-a-Bee a dysgu sut mae ein prosiect coed hylif yn defnyddio technoleg o'r orsaf ofod ryngwladol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Gallwch chi hefyd weld gwaith celf plant ysgol lleol a'n helpu i ddewis y delweddau a fydd yn ymddangos ar y llwybr gwenyn sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.
Yn olaf, dyma gyfle gwych i gwrdd â thîm Pharmabees a’r tîm Campws Cyfeillgar i Ddraenogod a dysgu sut y gallwch chi gymryd rhan er mwyn cefnogi natur yn Cathays.
Dysgu mwy am y gwaith: 22 Mawrth
Ar 22 Mawrth rhwng 1pm a 4pm, ymunwch â'ch cyd-drigolion yng nghyntedd Theatr y Sherman ar Ffordd Senghennydd i gael gwybod am waith grwpiau gwirfoddol i gefnogi natur yn Cathays a'i wneud yn lle mwy braf i fyw.
Digwyddiad plannu coed: 27 Mawrth
Ar 27 Mawrth (10am-12pm), ychydig cyn Pythefnos Cynaliadwyedd y Brifysgol (1-11 Ebrill), byddwn ni’n cynnal digwyddiad plannu coed cymunedol dan arweiniad Coed Caerdydd yn Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol ar gampws Parc Cathays. I ddod i’r digwyddiad, cofrestrwch drwy Eventbrite.
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn, cysylltwch â Les Baillie drwy e-bostio Bailliel@caerdydd.ac.uk.
Mae'r gweithgareddau hyn yn bosibl oherwydd cyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Comisiynau Artistiaid Gwyrddio Cathays
Nod y fenter gyffrous hon, a ariennir gyda chefnogaeth gan Gyngor Dinas Caerdydd drwy'r Gronfa Rhannu Ffyniant, yw dod â chymunedau at ei gilydd trwy greu amgylchedd trefol llawn natur a fydd yn cefnogi bioamrywiaeth, yn ailfywiogi mannau cyhoeddus trwy greadigrwydd ac yn caniatáu i drigolion amrywiol gysylltu â'r byd naturiol, ac â'i gilydd.
Rydym yn falch iawn o weithio gyda'r artistiaid lleol gwych hyn i gyflwyno eu cynigion uchelgeisiol yn Cathays fel rhan o 'Pharmabees', rhagor o wybodaeth am y prosiect.