Digwyddiadau awyr agored a llwybrau golau
- Golau'r Gaeaf (Tan 21 Rhag 2024): Profwch Golau'r Gaeaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gosodiad goleuadau synhwyraidd sy’n dathlu diwylliant a thraddodiadau Cymru drwy weledigaethau syfrdanol a straeon.
- Nadolig ym Mharc Bute (Tan 31 Rhag 2024): Crwydrwch lwybr golau swynol 1.4 km Parc Bute, gyda 15 parth wedi’u goleuo, cerddoriaeth Nadoligaidd, stondinau bwyd a gweithgareddau rhyngweithiol i bob oed. Eleni, comisiynodd Caerdydd Creadugol ddwy osodiad ysblennydd: un gan Natalie Roe a Louis Smith o Tangible Lemon, a’r llall gan Elliott Lewis. Dysgwch fwy.
- Gwyl y Gaeaf Caerdydd (Tan 5 Ion 2025): Gan ymestyn ar draws Castell Caerdydd a Lawnt Neuadd y Ddinas, mae Gwyl y Gaeaf Caerdydd yn cynnig yr holl hud tymhorol sydd ei angen arnoch, gyda sglefrio iâ, reidiau ffair, a danteithion Nadoligaidd blasus ar gyfer noson ramantus neu ddiwrnod allan i’r teulu.
Theatr a pherfformiadau byw
- Canolfan Mileniwm Cymru: Dechreuwch eich tymor gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru ar 19 Rhagfyr ar gyfer Dathliadau Nadolig, noson o hoff ganeuon Nadoligaidd a dylanwadau jazz. Hefyd, peidiwch â cholli’r clasur Broadway Hamilton, sy’n aros yng Nghaerdydd tan 24 Rhagfyr.
- Theatr y Sherman: Mae tymor Nadolig y Sherman yn cynnwys A Christmas Carol, ac i’r rhai bach, mae’r sioe Little Red Riding Hood yn Saesneg neu Yr Hugan Fach Goch yn Gymraeg—cyfuniad perffaith o hwyl a thraddodiad Nadoligaidd.
- New Theatre Caerdydd: Mae’r pantomeim clasurol, Cinderella, yn dod â’i hud (a’i chwerthin) tan 5 Ionawr, gyda sêr Cymru Gethin Jones, Owain Wyn Evans, a Mike Doyle.
- Cyngerdd Gaeaf Côr Cymunedol y Rhath (15 Rhag 2024): Mwynhewch noson o gerddoriaeth gyda Chôr Cymunedol y Rhath wrth iddynt berfformio eu Cyngerdd Gaeaf yn Goleg Catholig Dewi Sant (19:00). Disgwylir cymysgedd hyfryd o ganeuon Nadoligaidd a ffefrynnau corawl.
- Ho-Ho-Hickman: A Christmas Sam-stravaganza (21 Rhag 2024): Ymunwch â seren cabaret Caerdydd, Sam Hickman, ar gyfer noson Nadoligaidd o gerddoriaeth, hiwmor, a hwyl yr ŵyl yn Eglwys Undodaidd St. Andrew (19:00).
Marchnadoedd a bwyd
- Marchnad Nadolig Pontcanna: Yn cael ei chynnal bob dydd Sul ym mis Rhagfyr yn Kings Road Yard (10:00-16:00), mae’r farchnad hon yn berffaith ar gyfer prynu danteithion crefftus.
- Marchnad Nadolig Caerdydd (Tan 23 Rhag 2024): Ewch i Farchnad Nadolig Caerdydd ar gyfer profiad siopa Nadoligaidd traddodiadol yng nghanol y ddinas.
- Gwledda Cymreig Nadolig (Tan 20 Rhag 2024): Profwch wledd Nadoligaidd yng Nghastell Caerdydd.
Digwyddiadau ar draws y rhanbarth
- Digwyddiadau Nadolig Cadw (Caerffili)
- The Royal Mint Experience (Llantrisant)
- Dathliadau Nadolig yn Nhŷ Tredegar (Casnewydd)
- Luminate Cymru (Port Talbot)
Rydym yn gwybod bod cymaint yn digwydd yng Nghaerdydd a’r rhanbarth dros gyfnod y Nadolig, ac mae’n amhosibl i ni restru popeth yn yr erthygl fer hon! Mae Tîm Caerdydd Creadigol yn awyddus i rannu digwyddiadau creadigol eraill gyda’n cymuned, felly defnyddiwch ein rhestr digwyddiadau, tagiwch ni ar gyfryngau cymdeithasol neu cysylltwch drwy anfon e-bost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk cyn 19 Rhagfyr.
Nadolig Llawen a mwynhewch!