Nadolig Prysur yng Nghaerdydd: Digwyddiadau'r ŵyl

Cawsom ein digwyddiad olaf y flwyddyn ddydd Mawrth 10 Rhagfyr, ac rydym nawr yn barod i blymio’n syth i hud Nadoligaidd y ddinas. Mae’r goleuadau’n disgleirio, mae’r marchnadoedd yn fwrlwm, ac mae olwynion cyfan o gaws yn ein galw!

Gyda llu o ddigwyddiadau creadigol a diwylliannol i ddathlu’r tymor, mae lleoliadau eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr y Sherman, a Pharc Bute yn cynnal popeth o berfformiadau ysblennydd i weithgareddau i’r teulu. Dyma gipolwg ar yr hyn sydd ar gael ledled y ddinas a’r rhanbarth ehangach.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 11 December 2024

Digwyddiadau awyr agored a llwybrau golau

Creative Cardiff's John and Carys enjoying the Bute Park light trail
  • Golau'r Gaeaf (Tan 21 Rhag 2024): Profwch Golau'r Gaeaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gosodiad goleuadau synhwyraidd sy’n dathlu diwylliant a thraddodiadau Cymru drwy weledigaethau syfrdanol a straeon.
  • Nadolig ym Mharc Bute (Tan 31 Rhag 2024): Crwydrwch lwybr golau swynol 1.4 km Parc Bute, gyda 15 parth wedi’u goleuo, cerddoriaeth Nadoligaidd, stondinau bwyd a gweithgareddau rhyngweithiol i bob oed. Eleni, comisiynodd Caerdydd Creadugol ddwy osodiad ysblennydd: un gan Natalie Roe a Louis Smith o Tangible Lemon, a’r llall gan Elliott Lewis. Dysgwch fwy.
  • Gwyl y Gaeaf Caerdydd (Tan 5 Ion 2025): Gan ymestyn ar draws Castell Caerdydd a Lawnt Neuadd y Ddinas, mae Gwyl y Gaeaf Caerdydd yn cynnig yr holl hud tymhorol sydd ei angen arnoch, gyda sglefrio iâ, reidiau ffair, a danteithion Nadoligaidd blasus ar gyfer noson ramantus neu ddiwrnod allan i’r teulu.

Theatr a pherfformiadau byw

an image of a cast member on stage from A Christmas Carol
  • Canolfan Mileniwm Cymru: Dechreuwch eich tymor gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru ar 19 Rhagfyr ar gyfer Dathliadau Nadolig, noson o hoff ganeuon Nadoligaidd a dylanwadau jazz. Hefyd, peidiwch â cholli’r clasur Broadway Hamilton, sy’n aros yng Nghaerdydd tan 24 Rhagfyr.
  • Theatr y Sherman: Mae tymor Nadolig y Sherman yn cynnwys A Christmas Carol, ac i’r rhai bach, mae’r sioe Little Red Riding Hood yn Saesneg neu Yr Hugan Fach Goch yn Gymraeg—cyfuniad perffaith o hwyl a thraddodiad Nadoligaidd.
  • New Theatre Caerdydd: Mae’r pantomeim clasurol, Cinderella, yn dod â’i hud (a’i chwerthin) tan 5 Ionawr, gyda sêr Cymru Gethin Jones, Owain Wyn Evans, a Mike Doyle.
  • Cyngerdd Gaeaf Côr Cymunedol y Rhath (15 Rhag 2024): Mwynhewch noson o gerddoriaeth gyda Chôr Cymunedol y Rhath wrth iddynt berfformio eu Cyngerdd Gaeaf yn Goleg Catholig Dewi Sant (19:00). Disgwylir cymysgedd hyfryd o ganeuon Nadoligaidd a ffefrynnau corawl.
  • Ho-Ho-Hickman: A Christmas Sam-stravaganza (21 Rhag 2024): Ymunwch â seren cabaret Caerdydd, Sam Hickman, ar gyfer noson Nadoligaidd o gerddoriaeth, hiwmor, a hwyl yr ŵyl yn Eglwys Undodaidd St. Andrew (19:00).

Marchnadoedd a bwyd

multiple stalls from the Cardiff Christmas Markets
  • Marchnad Nadolig Pontcanna: Yn cael ei chynnal bob dydd Sul ym mis Rhagfyr yn Kings Road Yard (10:00-16:00), mae’r farchnad hon yn berffaith ar gyfer prynu danteithion crefftus.
  • Marchnad Nadolig Caerdydd (Tan 23 Rhag 2024): Ewch i Farchnad Nadolig Caerdydd ar gyfer profiad siopa Nadoligaidd traddodiadol yng nghanol y ddinas.
  • Gwledda Cymreig Nadolig (Tan 20 Rhag 2024): Profwch wledd Nadoligaidd yng Nghastell Caerdydd.

Digwyddiadau ar draws y rhanbarth

A man looking up in a festive room in Tredegar House
Aled Llewellyn

Rydym yn gwybod bod cymaint yn digwydd yng Nghaerdydd a’r rhanbarth dros gyfnod y Nadolig, ac mae’n amhosibl i ni restru popeth yn yr erthygl fer hon! Mae Tîm Caerdydd Creadigol yn awyddus i rannu digwyddiadau creadigol eraill gyda’n cymuned, felly defnyddiwch ein rhestr digwyddiadau, tagiwch ni ar gyfryngau cymdeithasol neu cysylltwch drwy anfon e-bost at creativecardiff@caerdydd.ac.uk cyn 19 Rhagfyr.

Nadolig Llawen a mwynhewch!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event