Dan y chwyddwydr: Tangible Lemon

Dros yr haf, bu Caerdydd Greadigol yn gweithio gyda From the Fields i hyrwyddo dau gyfle comisiynu ar gyfer llwybr golau Nadolig ym Mharc Bute. Rhan o gynllun Ignite Cymru, a gefnogir gan Digwyddiad Cymru. 

Dysgwch fwy am ddau artist sydd wedi’u comisiynu fel rhan o’r gwaith hwn, sef Natalie Roe a Louis Smith, sy’n gweithio gyda’i gilydd ar Tangible Lemon, yn datblygu ac yn cyflwyno prosiectau cerfluniol a cherddoriaeth.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 16 December 2024

Tangible Lemon

1. Sut byddech chi'n disgrifio'ch gwaith?

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyfuno dwy fath o gelfyddyd: cerflunwaith a cherddoriaeth. Rydym yn creu gosodiadau trochi ar raddfa fawr gyda ffocws ar ofod, sain a chyffyrddiad. Fel artistiaid rydym yn frwd dros gydweithio i wneud gwaith rhyngddisgyblaethol sy'n cysylltu â'r gymuned.

2. Pa rôl mae cymuned neu ddiwylliant yn ei chwarae yn eich celf, yn enwedig yng nghyd-destun y gosodiad hwn?

Er bod ein gwaith celf wedi’i greu i fod yn ddeniadol i bawb, a ninnau’n bobl ifanc ein hunain rydym yn gweld llawer o bobl o oedran tebyg ac iau yn teimlo’n bell i ffwrdd o'r celfyddydau a cherddoriaeth. Trwy gydweithio â grwpiau cymunedol ac ieuenctid rydym yn gobeithio helpu i feithrin ysbrydoliaeth a chyfleoedd i bobl gael mynediad i'r celfyddydau.

Ar gyfer ein gosodiad Nadolig ym Mharc Bute cawsom y pleser o weithio gyda changen Caerdydd o’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Cenedlaethol (NOYO) a oedd yn brofiad anhygoel. Rydym wedi recordio casgliad o synau a lleferydd o'u hymarferion sydd wedi bod yn sail i'r cyfansoddiad. Ers hynny mae rhai o'r recordiadau wedi'u trin â Syntheseisydd Modiwlaidd ond yn wreiddiol chwaraewyd popeth a glywch yn ein gosodiad gan NOYO!

3. A oes unrhyw heriau neu gyfleoedd penodol yn dod gyda chreu celf ar gyfer digwyddiad awyr agored mawr/man cyhoeddus?

Un o'r heriau mwyaf fu sicrhau bod popeth yn barod ac yn gynaliadwy am chwe wythnos o ryngweithio cyhoeddus. Yn ogystal â sicrhau ei fod yn barod am y tywydd Cymreig! Fodd bynnag, mae'r ddau ohonom yn cytuno bod y cyfleoedd i ni yn fwy buddiol na'r heriau. Mae gallu meddwl yn uchelgeisiol ar raddfa i greu amgylcheddau i’n cynulleidfa ymgolli ynddynt bob amser yn llawer o hwyl!

4. Beth sydd nesaf i chi ar ôl y gosodiad?

Rydym wedi gwneud y cerflun hwn yn wydn yn bwrpasol ac yn gallu teithio i leoliadau eraill fel y gallwn barhau i weithio a datblygu'r gosodiad hwn. Byddem wrth ein bodd yn ei wneud yn fwy trochol i'r gynulleidfa trwy ymgorffori elfen ryngweithiol lle gallai'r gynulleidfa ysgogi synau trwy gyffwrdd â'r golau.

Yn unigol mae’r ddau ohonom yn gweithio fel artistiaid llawrydd ac rydym bob amser yn chwilio am brosiectau newydd cyffrous sy’n dod â’n ffurfiau celf ynghyd!

Mwy am Tangible Lemon

Natalie Roe, Cyfansoddwr ac Artist Electronig - Natalie ydw i, cyfansoddwr a dylunydd sain gydag agwedd archwiliadol at gerddoriaeth, sy’n fy arwain i ddarganfod yn gyson a chael fy swyno gan synau newydd. Mae cydweithio wrth galon fy ngwaith. Fel rhywun sy'n caru ac yn mwynhau creu celf weledol, mae anweledigrwydd sain yn rhoi cyfle enfawr i ymgorffori hyn yn fy ngwaith.

Louis Smith, Dylunydd a cherflunydd - Fy enw yw Louis, cerflunydd a gwneuthurwr gyda diddordeb mewn unrhyw beth ymarferol neu anniben. Rwy'n mwynhau gweithio ar rywbeth mor fawr fel na allwch ddweud beth ydyw nes eich bod yn sefyll ymhell oddi wrtho. Mae gen i hefyd ddiddordeb mawr mewn perfformio a cherddoriaeth ac rwy'n ceisio ei integreiddio i'm gwaith fy hun cymaint â phosibl.

Rhagor o wybodaeth am Tangible Lemon.

Mwy am Nadolig ym Mharc Bute

I’r rhai ohonoch sydd eto i brofi’r llwybr golau sydd wedi gwerthu fwyaf yn y DU y tu allan i Lundain, mae Nadolig ym Mharc Bute yn osodiad Nadoligaidd blynyddol yng nghanol Caerdydd. Gyda dros 100,000 o ymwelwyr pob blwyddyn, dyma lwybr golau Nadoligaidd mwyaf Cymru, gan ganiatáu i gynulleidfaoedd deithio trwy amrywiaeth ysblennydd o oleuadau, cerfluniau ac effeithiau arbennig.

Cyflwynir y Nadolig ym Mharc Bute gan From the Fields, asiantaeth sy’n trefnu profiadau Nadoligaidd cyfoes ar draws dinasoedd y DU. Nod pob un o’u llwybrau golau yw i drochi cynulleidfaoedd mewn profiad clyweledol a all fod yn chwareus ac yn hwyl, neu’n feiddgar ac yn drawiadol.

Gallwch brofi’r Nadolig ym Mharc Bute rhwng 22 Tachwedd – 31 Rhagfyr. Rhagor o wybodaeth.

Christmas at Bute Park installation

Keep an eye on Creative Cardiff's channels as we share more about the commissioned artists as they develop their pieces!

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event