Dyddiad cychwyn fydd Mis Ionawr 2025 tan Tachwedd 2025.
Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Mae adran Rheoli Llwyfan yn edrych i benodi Dirprwy Uwch Reolwr Llwyfan i gefnogi a chyflenwi cyfnod o absenoldeb Mamolaeth am 12 mis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda holl aelodau’r cwmni a bydd ganddo drosolwg llawn o weithgareddau’r cwmni i gysylltu â phob adran. Bydd yr Uwch Ddirprwy Reolwr Llwyfan yn dangos galwad o leiaf un cynhyrchiad ac yn cynorthwyo gydag eraill yn y repertoire.
Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?
- Staffio cynyrchiadau dynodedig, o'r dechreuad, drwy'r cyfnod ymarfer a'r perfformiadau ac i gynnal safon uchel o berfformiad o safbwynt technegol wedi iddo agor.
- Ymarfer a rhedeg cynyrchiadau newydd ac ail godi rhai cynyrchiadau.
- Cynhyrchu Copi Cofweinydd yn gyson, gwaith papur wedi'i ddiweddaru, nodiadau ymarfer dyddiol a chofnodion cyfarfodydd cynhyrchu.
- Mynychu Sitzproben [lle mae'n bosib] at bwrpas penodol o amseru'r cynhyrchiad.
- Mentora aelodau iau o'r tîm o fewn sgôp y gwaith.
- Cynorthwyo i baratoi llungopïau o sgoriau, cynlluniau celfi, cynlluniau criw, rhestrau rhedeg neu unrhyw ddogfennaeth arall er mwyn llogi ar gyfer y cynhyrchiad, neu gyd-gynyrchiadau.
- Paratoi ystafelloedd ymarfer.
- Rhedeg yr ystlysau yn ystod ymarferion a pherfformiadau a, lle mae'n briodol, gweithredu yn lle'r Uwch Reolwr Llwyfan
- Cynorthwyo gyda gosod celfi ar gyfer ymarferion a pherfformiadau.
- Goruchwylio a sicrhau bod setiau a chelfi yn cael eu gosod yn y theatr am y tro cyntaf a symud yr holl gynhyrchiad o'r lleoliad wedi hynny yn ystod y daith.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y'u hystyrir yn angenrheidiol gan yr Uwch Reolwyr Llwyfan.
Beth fydd ei angen arnoch chi?
- Gwybodaeth gyfredol o ymarfer theatr ac amgylchedd cefn llwyfan.
- Profiad profedig mewn swydd gysylltiedig
- Y gallu i ddarllen sgôr yn hyderus.
- Diddordeb cryf yn y celfyddydau a cherddoriaeth a'u hymarferwyr.
- Sgiliau rheoli a threfnu da a'r gallu i weithio mewn tîm.
- Y gallu i flaenoriaethu, gwneud penderfyniadau a gweithredu gydag awdurdod pan fo'n briodol.
- Gallu gweithio dan bwysau yn bwyllog ac yn effeithiol.
- Gallu mentora a chynorthwyo aelodau iau o'r adran.
- Safon dda o lythrennedd TG (pecynnau Microsoft Office - e.e Word, Excel, Outlook).
- Gallu cyfathrebu ar bob lefel, yn arbennig felly gydag Adrannau Technegol a Thimau Creadigol.
- Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol gan gynnwys ar benwythnosau a rhaglen deithio sylweddol.
- Y gallu i deithio’n annibynnol ledled y DU a thramor.