Dirprwy Uwch Reolwr Llwyfan – Cyfnod Mamolaeth

Cyflog
£36,225
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
18.10.2024
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 27 September 2024

Dyddiad cychwyn fydd Mis Ionawr 2025 tan Tachwedd 2025. 

Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Mae adran Rheoli Llwyfan yn edrych i benodi Dirprwy Uwch Reolwr Llwyfan i gefnogi a chyflenwi cyfnod o absenoldeb Mamolaeth am 12 mis. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda holl aelodau’r cwmni a bydd ganddo drosolwg llawn o weithgareddau’r cwmni i gysylltu â phob adran. Bydd yr Uwch Ddirprwy Reolwr Llwyfan yn dangos galwad o leiaf un cynhyrchiad ac yn cynorthwyo gydag eraill yn y repertoire.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Staffio cynyrchiadau dynodedig, o'r dechreuad, drwy'r cyfnod ymarfer a'r perfformiadau ac i gynnal safon uchel o berfformiad o safbwynt technegol wedi iddo agor.
  • Ymarfer a rhedeg cynyrchiadau newydd ac ail godi rhai cynyrchiadau.
  • Cynhyrchu Copi Cofweinydd yn gyson, gwaith papur wedi'i ddiweddaru, nodiadau ymarfer dyddiol a chofnodion cyfarfodydd cynhyrchu.
  • Mynychu Sitzproben [lle mae'n bosib] at bwrpas penodol o amseru'r cynhyrchiad.
  • Mentora aelodau iau o'r tîm o fewn sgôp y gwaith.
  • Cynorthwyo i baratoi llungopïau o sgoriau, cynlluniau celfi, cynlluniau criw, rhestrau rhedeg neu unrhyw ddogfennaeth arall er mwyn llogi ar gyfer y cynhyrchiad, neu gyd-gynyrchiadau.
  • Paratoi ystafelloedd ymarfer.
  • Rhedeg yr ystlysau yn ystod ymarferion a pherfformiadau a, lle mae'n briodol, gweithredu yn lle'r Uwch Reolwr Llwyfan
  • Cynorthwyo gyda gosod celfi ar gyfer ymarferion a pherfformiadau.
  • Goruchwylio a sicrhau bod setiau a chelfi yn cael eu gosod yn y theatr am y tro cyntaf a symud yr holl gynhyrchiad o'r lleoliad wedi hynny yn ystod y daith.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y'u hystyrir yn angenrheidiol gan yr Uwch Reolwyr Llwyfan.

Beth fydd ei angen arnoch chi?

  • Gwybodaeth gyfredol o ymarfer theatr ac amgylchedd cefn llwyfan.
  • Profiad profedig mewn swydd gysylltiedig
  • Y gallu i ddarllen sgôr yn hyderus.
  • Diddordeb cryf yn y celfyddydau a cherddoriaeth a'u hymarferwyr.
  • Sgiliau rheoli a threfnu da a'r gallu i weithio mewn tîm.
  • Y gallu i flaenoriaethu, gwneud penderfyniadau a gweithredu gydag awdurdod pan fo'n briodol.
  • Gallu gweithio dan bwysau yn bwyllog ac yn effeithiol.
  • Gallu mentora a chynorthwyo aelodau iau o'r adran.
  • Safon dda o lythrennedd TG (pecynnau Microsoft Office - e.e Word, Excel, Outlook).
  • Gallu cyfathrebu ar bob lefel, yn arbennig felly gydag Adrannau Technegol a Thimau Creadigol.
  • Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol gan gynnwys ar benwythnosau a rhaglen deithio sylweddol.
  • Y gallu i deithio’n annibynnol ledled y DU a thramor.
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.