Eich nod…
- Cyflawni agweddau'r strategaeth llogi masnachol gaiff eu rhoi yn eich gofal gan y Rheolwr Llogi Corfforaethol
- Gwneud y mwyaf o bob cyfle i greu refeniw ac arbed arian
- Chwilio am gyfleoedd gwerthu newydd ac ymarferol
- Darparu profiadau premiwm i gleientiaid a rhanddeiliaid
- Dechrau ymholiadau am gontractau a'u trafod, a chyflawni digwyddiadau a phrojectau penodol
Sut i gyrraedd y nod...
- Sicrhau y caiff disgwyliadau pob cleient a rhanddeiliad eu bodloni drwy brosesau ymgynghori, cynllunio a chyflawni llogi masnachol
- Cyflawni a dadansoddi pob targed ariannol
- Cyfrannu at adolygiad rheolaidd o brosesau a gweithdrefnau
- Darparu boddhad cwsmer o safon uchel ym mhob maes gwaith
- Cyflawni gwaith llogi cyfleusterau o'r safon uchaf
- Ymateb i ymholiadau ynghylch codi arian drwy logi masnachol
- Cyfrannu at ymgyrchoedd a dulliau sy'n seiliedig ar werthiant, gan gynnwys ymgysylltu â chleientiaid a gwaith gwerthu wyneb yn wyneb, er enghraifft, teithiau o gwmpas ein lleoliadau, digwyddiadau rhwydweithio ac ati
- Cydymffurfio â'r holl ofynion iechyd a diogelwch
- Cydymffurfio â phrosesau a gweithdrefnau'r adran ar gyfer rheoli'r busnes, er enghraifft, codi archebion, cofnodion, systemau tracio ac ati
- Cysylltu â deiliaid y fasnachfraint arlwyo i drafod ymholiadau, uwchwerthu a defnyddio dull rhagweithiol i werthu gofodau ar log i ystod eang o gleientiaid cyfredol a newydd
- Bod yn Swyddog ar Ddyletswydd a goruchwylio'r gwaith o gyflawni a staffio digwyddiadau llogi masnachol
- Gweithio gyda’r tîm rheoli safle i adnewyddu trwyddedau perthnasol mewn da bryd, rheoli ceisiadau ar ran cleientiaid i ymestyn y drwydded hwyr dros dro
- Creu a chadw casgliad o ddelweddau addas a geirda cleientiaid at ddefnydd cyhoeddusrwydd
- Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol a cheisiadau ar gyfer projectau ffilmio masnachol a thynnu ffotograffau, a goruchwylio digwyddiadau o'r fath yn ôl y galw
- Unrhyw ddyletswyddau eraill i gefnogi'r adran