Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol

Cyflog
£19,838 y flwyddyn pro rata (£11,902.80 ar gytundeb rhan amser). Telir yn fisol
Location
Caerdydd
Oriau
Fixed term
Closing date
26.05.2023
Profile picture for user National Youth Arts Wales

Postiwyd gan: National Youth…

Dyddiad: 17 May 2023

Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am recriwtio Cynhyrchydd dan Hyfforddiant Cerdd y Dyfodol rhan amser i ymuno â thîm Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru am 9 mis er mwyn helpu i gynhyrchu a throsglwyddo ein prosiectau cerdd.

Un o brif dasgau’r rôl fydd helpu i gynhyrchu Cerdd y Dyfodol ar gyfer 2023-2024, prosiect cerddoriaeth gyfoes CCIC ar gyfer pobl ifanc 15-19 oed, sy’n cynnig cipolwg ar y diwydiant cerddoriaeth masnachol yng Nghymru. NID yw profiad gwaith blaenorol yn hanfodol ar gyfer y rôl.

Cymhwysedd
Rydym am gynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau i bobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Celfyddydau. Mae’r rôl hyfforddiant hon yn unswydd ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy’n dod o gymunedau a dangynrychiolir yn y celfyddydau. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc o gymunedau Mwyafrif Byd-eang, pobl ifanc sy’n F/fyddar neu sy’n byw gydag anabledd, pobl ifanc niwroamrywiol, neu bobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Mae’r rôl hon yn dod o dan y Cynllun Gweithredu Cadarnhaol, fel rhan o ymrwymiad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i wneud y gweithlu creadigol yn fwy amrywiol. Ei fwriad yw helpu pobl ifanc o gefndiroedd a dangynrychiolir i gael eu profiad cyntaf o gael eu cyflogi yn y diwydiannau celfyddydol.

Cyflog: £19,838 y flwyddyn pro rata (£11,902.80 ar gytundeb rhan amser). Telir yn fisol.

Dyddiad cau: 12pm ar Ddydd Gwener 26 Mai

Sut i ymgeisio

  • Dylet gwblhau’r ffurflen gais fer gan ddefnyddio’r ddolen isod i gofrestru dy ddiddordeb: https://form.jotform.com/230604229533349

  • Yna, anfona lythyr eglurhaol atom sydd ddim hirach na dwy ochr o un ddalen A4 NEU galli greu cais ar fideo o dy hun sydd ddim hwy na phum munud, a’i anfon atom drwy Dropbox, Google Drive neu debyg.

  • Mae’r naill ddull neu’r llall yn dderbyniol ac o’r un gwerth. Rydym eisiau cael syniad o dy gefndir a dy botensial yn hytrach nac asesu dy gyflawniadau academaidd neu gyflogaeth.

  • Cofia wneud yn siŵr ein bod yn derbyn dy ffurflen gais, ac un ai dy lythyr eglurhaol neu gais ar fideo, erbyn 12pm ar Ddydd Gwener 26 Mai 2023 trwy ei anfon at nyaw@nyaw.org.uk.

  • Dyddiadau cyfweliadau: W/D 29 Mai

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.