Pennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol

Cyflog
Cyflog a bonws yn unol â phrofiad
Location
Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid.
Oriau
Full time
Closing date
24.03.2023
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 27 February 2023

Pennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol

Mae S4C yn chwilio am Bennaeth y Gronfa Cynnwys Masnachol fydd yn gweithio o fewn S4C i wneud y mwyaf o’r cyfle masnachol ar gyfer comisiynau S4C a’r enillion ohonyn nhw, gan weithio’n agos gyda thimau comisiynu S4C a chwmnïau cynhyrchu annibynnol.  Mae'r rôl yn gyfrifol am weithrediad a llwyddiant Cronfa Cynnwys Masnachol S4C.

Bydd eich prif ddyletswyddau yn cynnwys gweithredu fel ffynhonnell awdurdodol o arbenigedd ar gynnwys masnachol i Grŵp S4C, goruchwylio Cronfa Cynnwys Masnachol S4C gydag atebolrwydd am ei pherfformiad a datblygu presenoldeb gweladwy yn y diwydiant wrth greu rhwydwaith o bartneriaid cynhyrchu ac ariannu, a hyrwyddo Grŵp S4C.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl yma.

Gallwn rannu manylion o’r gronfa gyda darpar ymgeiswyr, ond mi fydd disgwyl i chi lofnodi cytundeb cyfrinachedd i allu derbyn rhain.  Plîs cysylltwch ag adnoddau.dynol@s4c.cymru.

Manylion Eraill

Lleoliad:                 Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog:                    Cyflog a bonws yn unol â phrofiad

Oriau gwaith:         35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cytundeb:               Parhaol

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.  

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 13.00 ar ddydd Gwener 24 Mawrth 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.