- Rydym yn chwilio am Ddylunydd 3D talentog, o gefndir arddangosfeydd, pensaernïaeth neu ddylunio mewnol i fod yn rhan o'n tîm.
- Byddwch yn arwain ar ddylunio 3D ar gyfer arddangosfeydd mawr, adnewyddu ein horielau, a nifer o arddangosiadau bach yn yr amgueddfa.
- Byddwch yn datblygu dyluniadau arddangosfeydd o'r dechrau hyd at eu cwblhau, gan gynhyrchu brasluniau, modelau 3D CAD a ffisegol, delweddau, cyflwyniadau dylunio, a chynigion pecynnau darlunio, manylebau ac amserlenni.
- Byddwch ynghlwm â phob agwedd o’r gwaith, o’r cam creu a chyflwyno, i adeiladu ar y safle.
- Sicrhau bod projectau dylunio yn cael eu cwblhau i'r safon uchaf, ar amser ac o fewn y gyllideb.
- Sicrhau y caiff gwaith graffeg/dehongliad 2D eu cynnwys mewn dyluniad arddangosfeydd yn llyfn.
- Gyda’r Rheolwr Brand, sicrhau bod canllawiau brand Amgueddfa Cymru yn cael eu dilyn.
- Rhoi cyngor dylunio a chyfrannu at brojectau arddangosfeydd yn ôl yr angen.
- Rheoli a goruchwylio gwaith dylunwyr a chontractwyr allanol.
- Rheoli cyllidebau gaiff eu dyrannu, gan gynnwys rheoli prosesau caffael a phrynu.
- Cynhyrchu dogfennau tendro ar gyfer gwaith adeiladu 3D, gyda chefnogaeth y Tîm Caffael.
- Cadw llygad ar ddatblygiadau technegol a chreadigol ym maes dylunio amgueddfaol.
Eich nod…
- Profiadau arddangosfa cyffrous, creadigol ac ysbrydoledig sy'n denu ymwelwyr o bob oed a chefndir.
- Gwaith dylunio amgueddfaol o safon uchel sy'n cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd ac yn darparu gofod teg a diogel i bob defnyddiwr.
- Sicrhau dylunio o'r safon uchaf ar draws y sefydliad a helpu i wella enw da Amgueddfa Cymru fel un o brif leoliadau Cymru i weld dylunio o safon.