Dylunydd 3D

Cyflog
Gradd E £27,996 - £34,257 y flwyddyn
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
25.09.2022

Postiwyd gan: AmgueddfaCymru1

Dyddiad: 18 August 2022

  • Rydym yn chwilio am Ddylunydd 3D talentog, o gefndir arddangosfeydd, pensaernïaeth neu ddylunio mewnol i fod yn rhan o'n tîm.
  • Byddwch yn arwain ar ddylunio 3D ar gyfer arddangosfeydd mawr, adnewyddu ein horielau, a nifer o arddangosiadau bach yn yr amgueddfa.
  • Byddwch yn datblygu dyluniadau arddangosfeydd o'r dechrau hyd at eu cwblhau, gan gynhyrchu brasluniau, modelau 3D CAD a ffisegol, delweddau, cyflwyniadau dylunio, a chynigion pecynnau darlunio, manylebau ac amserlenni.
  • Byddwch ynghlwm â phob agwedd o’r gwaith, o’r cam creu a chyflwyno, i adeiladu ar y safle.
  • Sicrhau bod projectau dylunio yn cael eu cwblhau i'r safon uchaf, ar amser ac o fewn y gyllideb.
  • Sicrhau y caiff gwaith graffeg/dehongliad 2D eu cynnwys mewn dyluniad arddangosfeydd yn llyfn.
  • Gyda’r Rheolwr Brand, sicrhau bod canllawiau brand Amgueddfa Cymru yn cael eu dilyn.
  • Rhoi cyngor dylunio a chyfrannu at brojectau arddangosfeydd yn ôl yr angen.
  • Rheoli a goruchwylio gwaith dylunwyr a chontractwyr allanol.
  • Rheoli cyllidebau gaiff eu dyrannu, gan gynnwys rheoli prosesau caffael a phrynu.
  • Cynhyrchu dogfennau tendro ar gyfer gwaith adeiladu 3D, gyda chefnogaeth y Tîm Caffael.
  • Cadw llygad ar ddatblygiadau technegol a chreadigol ym maes dylunio amgueddfaol.

Eich nod…

  • Profiadau arddangosfa cyffrous, creadigol ac ysbrydoledig sy'n denu ymwelwyr o bob oed a chefndir.
  • Gwaith dylunio amgueddfaol o safon uchel sy'n cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd ac yn darparu gofod teg a diogel i bob defnyddiwr.
  • Sicrhau dylunio o'r safon uchaf ar draws y sefydliad a helpu i wella enw da Amgueddfa Cymru fel un o brif leoliadau Cymru i weld dylunio o safon.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event