Pennaeth BAFTA Cymru

Cyflog
£45,000
Location
Swyddfa BAFTA (Caerdydd) gyda rhywfaint o weithio o bell a chyfarfodydd yn swyddfa Llundain o bryd i’w gilydd
Oriau
Full time
Closing date
02.06.2022

Postiwyd gan: Abigail Klapp

Dyddiad: 19 May 2022

Diben y swydd

Rôl strategol yw hon, yn sbarduno presenoldeb BAFTA yng Nghymru a sicrhau bod nodau ac amcanion elusennol BAFTA yn cael eu cyflawni mewn modd sy’n ystyried diwylliant cyfoethog Cymru a thirwedd y diwydiant yng Nghymru.

Mae BAFTA Cymru yn bodoli i gydnabod y cyfraniad pwysig y mae cyfryngau’r genedl yn ei wneud at fywyd diwylliannol y Deyrnas Unedig a hyrwyddo diwydiant ffilm, gemau a theledu Cymru fel lle bywiog a chynhwysol i weithio. A hithau’n elusen, nid yw BAFTA yn sefydliad ymgyrchu, ond mae angen i’r rôl hon weithio ar draws y diwydiant yng Nghymru i gyflawni cylch gorchwyl elusennol BAFTA.

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol i arwain ein tîm bach ond effeithiol iawn yng Nghymru.

Dyma gyfle i gyflawni rôl allweddol wrth ddatblygu a chynnal ymwybyddiaeth o werth ac effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol niferus y sectorau ffilm, gemau a theledu yng Nghymru, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, asiantaethau sgrîn a sefydliadau a dylanwadwyr allweddol eraill.

Pennaeth BAFTA Cymru yw wyneb cyhoeddus BAFTA yng Nghymru, gan weithio’n agos gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol BAFTA a Chadeirydd Pwyllgor BAFTA Cymru i gynrychioli gwerthoedd BAFTA gyda rhanddeiliaid allweddol, yn y cyfryngau ac i gynulleidfaoedd yng Nghymru.

Bydd y rôl hon yn datblygu a chyflawni ymgyrchoedd a gweithgarwch eirioli, partneriaethau a nawdd i gynyddu ymwybyddiaeth o waith BAFTA a’r diwydiant ehangach a dylanwadu ar ystod o gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb elw a cholled a bydd yn gynrychiolydd allweddol yn BAFTA ar gyfer BAFTA Cymru.

Cyfrifoldebau ac atebolrwydd allweddol

  • Goruchwylio rhaglen weithgarwch yng Nghymru. Cynorthwyo’r tîm i sicrhau bod BAFTA yn cyrraedd targedau cytunedig o ran ymgysylltu â chynulleidfaoedd, aelodaeth ac ati.
  • Eiriolaeth fewnol ac ymgyrchoedd, Cefnogi tîm ehangach y Deyrnas Unedig i weithredu nodau strategol BAFTA, gan ymgysylltu â chynulleidfaoedd allweddol i amlygu ac ysgogi cyfleoedd i gyflawni cyllid craidd a phartneriaethau newydd.
  • Ffurfio a chynnal perthnasoedd â llywodraeth leol, cynrychiolwyr celfyddydau a diwylliant, a busnesau lleol, a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n gyflym, a bod effaith ymyriadau’n cael ei monitro a’i chofnodi.
  • Cynrychioli BAFTA mewn cyfarfodydd a meithrin cyweithrediad â grwpiau cynghreiriaid sy’n canolbwyntio ar faterion blaenoriaethol, gan sicrhau bod tîm ehangach y Deyrnas Unedig yn cael gwybod am y trafodaethau hyn.

Yn ddelfrydol, bydd gennych:

  • Brofiad helaeth o ddatblygu rhwydweithiau strategol a chydweithio effeithiol
  • Y gallu i feddwl yn greadigol a mynd i’r afael â materion cymhleth
  • Sgiliau cadarn o ran ffurfio perthnasoedd
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ysgrifenedig/llafar rhagorol
  • Brwdfrydedd ynglŷn â datgelu ac adrodd straeon
  • Craffter busnes eithriadol
  • Y gallu i flaenoriaethu a ffynnu mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym
  • Brwdfrydedd ynglŷn â datblygu a chynyddu cynulleidfaoedd, a chyflawni rhaglenni a digwyddiadau
  • Y gallu i gymryd cyfrifoldeb am fetrigau a phrosesau perfformiad allweddol
  • Sgiliau cynllunio strategol a dylanwadu cryf

Yn ddelfrydol, byddwch:

  • Yn wleidyddol graff
  • Yn frwdfrydig wrth ryngweithio â phobl eraill
  • Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda phawb yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Yn agos-atoch gydag amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd
  • Yn gallu dylanwadu’n gadarnhaol ar sut mae pobl yn gweld BAFTA Cymru a’r diwydiant ehangach
  • Yn gweithredu mewn ffordd entrepreneuraidd
  • Dysgwr Cymraeg neu’n rhugl yn y Gymraeg

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.