Diben y swydd
Rôl strategol yw hon, yn sbarduno presenoldeb BAFTA yng Nghymru a sicrhau bod nodau ac amcanion elusennol BAFTA yn cael eu cyflawni mewn modd sy’n ystyried diwylliant cyfoethog Cymru a thirwedd y diwydiant yng Nghymru.
Mae BAFTA Cymru yn bodoli i gydnabod y cyfraniad pwysig y mae cyfryngau’r genedl yn ei wneud at fywyd diwylliannol y Deyrnas Unedig a hyrwyddo diwydiant ffilm, gemau a theledu Cymru fel lle bywiog a chynhwysol i weithio. A hithau’n elusen, nid yw BAFTA yn sefydliad ymgyrchu, ond mae angen i’r rôl hon weithio ar draws y diwydiant yng Nghymru i gyflawni cylch gorchwyl elusennol BAFTA.
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol i arwain ein tîm bach ond effeithiol iawn yng Nghymru.
Dyma gyfle i gyflawni rôl allweddol wrth ddatblygu a chynnal ymwybyddiaeth o werth ac effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol niferus y sectorau ffilm, gemau a theledu yng Nghymru, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, asiantaethau sgrîn a sefydliadau a dylanwadwyr allweddol eraill.
Pennaeth BAFTA Cymru yw wyneb cyhoeddus BAFTA yng Nghymru, gan weithio’n agos gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol BAFTA a Chadeirydd Pwyllgor BAFTA Cymru i gynrychioli gwerthoedd BAFTA gyda rhanddeiliaid allweddol, yn y cyfryngau ac i gynulleidfaoedd yng Nghymru.
Bydd y rôl hon yn datblygu a chyflawni ymgyrchoedd a gweithgarwch eirioli, partneriaethau a nawdd i gynyddu ymwybyddiaeth o waith BAFTA a’r diwydiant ehangach a dylanwadu ar ystod o gynulleidfaoedd a rhanddeiliaid. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb elw a cholled a bydd yn gynrychiolydd allweddol yn BAFTA ar gyfer BAFTA Cymru.
Cyfrifoldebau ac atebolrwydd allweddol
- Goruchwylio rhaglen weithgarwch yng Nghymru. Cynorthwyo’r tîm i sicrhau bod BAFTA yn cyrraedd targedau cytunedig o ran ymgysylltu â chynulleidfaoedd, aelodaeth ac ati.
- Eiriolaeth fewnol ac ymgyrchoedd, Cefnogi tîm ehangach y Deyrnas Unedig i weithredu nodau strategol BAFTA, gan ymgysylltu â chynulleidfaoedd allweddol i amlygu ac ysgogi cyfleoedd i gyflawni cyllid craidd a phartneriaethau newydd.
- Ffurfio a chynnal perthnasoedd â llywodraeth leol, cynrychiolwyr celfyddydau a diwylliant, a busnesau lleol, a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n gyflym, a bod effaith ymyriadau’n cael ei monitro a’i chofnodi.
- Cynrychioli BAFTA mewn cyfarfodydd a meithrin cyweithrediad â grwpiau cynghreiriaid sy’n canolbwyntio ar faterion blaenoriaethol, gan sicrhau bod tîm ehangach y Deyrnas Unedig yn cael gwybod am y trafodaethau hyn.
Yn ddelfrydol, bydd gennych:
- Brofiad helaeth o ddatblygu rhwydweithiau strategol a chydweithio effeithiol
- Y gallu i feddwl yn greadigol a mynd i’r afael â materion cymhleth
- Sgiliau cadarn o ran ffurfio perthnasoedd
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ysgrifenedig/llafar rhagorol
- Brwdfrydedd ynglŷn â datgelu ac adrodd straeon
- Craffter busnes eithriadol
- Y gallu i flaenoriaethu a ffynnu mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym
- Brwdfrydedd ynglŷn â datblygu a chynyddu cynulleidfaoedd, a chyflawni rhaglenni a digwyddiadau
- Y gallu i gymryd cyfrifoldeb am fetrigau a phrosesau perfformiad allweddol
- Sgiliau cynllunio strategol a dylanwadu cryf
Yn ddelfrydol, byddwch:
- Yn wleidyddol graff
- Yn frwdfrydig wrth ryngweithio â phobl eraill
- Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda phawb yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Yn agos-atoch gydag amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd
- Yn gallu dylanwadu’n gadarnhaol ar sut mae pobl yn gweld BAFTA Cymru a’r diwydiant ehangach
- Yn gweithredu mewn ffordd entrepreneuraidd
- Dysgwr Cymraeg neu’n rhugl yn y Gymraeg
|