Mae ein cyfarfod misol yn dychwelyd ym mis Hydref gyda chyfleoedd newydd i gwrdd ag eraill o'r gymuned greadigol.
Bydd cyfle i chi rannu pwy ydych chi, beth rydych chi'n gweithio arno ac a oes rhywbeth yr hoffech chi gydweithio arno.
Byddwn hefyd yn clywed mwy am y cronfeydd byw hyn:
- Paul Osbaldeston, Arweinydd Datblygu Sector dros Gynnwys Digidol, Cymru Greadigol i glywed mwy am eu Cronfa Ddatblygu newydd. Os ydych chi'n fusnes yng Nghymru sy'n datblygu cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau yn y diwydiannau creadigol, gallwch wneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru o hyd at £25k i ddatblygu'ch prosiect. Mae Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol newydd, a fydd ar agor tan 11 Hydref 2021, yn cynnwys dau linyn sy'n canolbwyntio ar gefnogi prosiectau yn y sectorau teledu a chynnwys digidol (gan gynnwys gemau, animeiddio, Createch a gwasanaethau creadigol).
- Rebecca Wignall, Rheolwr Celfyddydau British Council Cymru, yn rhannu gwybodaeth am eu cronfa Cydweithio Digidol nesaf.
Cofrestrwch ar Zoom ymlaen llaw a gadewch i ni wybod sut y gallwn wneud y digwyddiad yn hygyrch i chi.