Angen! Diwallu’r Angen! Cydweithio! - Hydref 2021

07/10/2021 - 14:00
Ar-lein
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Mae ein cyfarfod misol yn dychwelyd ym mis Hydref gyda chyfleoedd newydd i gwrdd ag eraill o'r gymuned greadigol.

Bydd cyfle i chi rannu pwy ydych chi, beth rydych chi'n gweithio arno ac a oes rhywbeth yr hoffech chi gydweithio arno.

Byddwn hefyd yn clywed mwy am y cronfeydd byw hyn:

  • Paul Osbaldeston, Arweinydd Datblygu Sector dros Gynnwys Digidol, Cymru Greadigol i glywed mwy am eu Cronfa Ddatblygu newydd. Os ydych chi'n fusnes yng Nghymru sy'n datblygu cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau yn y diwydiannau creadigol, gallwch wneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru o hyd at £25k i ddatblygu'ch prosiect. Mae Cronfa Ddatblygu Cymru Greadigol newydd, a fydd ar agor tan 11 Hydref 2021, yn cynnwys dau linyn sy'n canolbwyntio ar gefnogi prosiectau yn y sectorau teledu a chynnwys digidol (gan gynnwys gemau, animeiddio, Createch a gwasanaethau creadigol).
  • Rebecca Wignall, Rheolwr Celfyddydau British Council Cymru, yn rhannu gwybodaeth am eu cronfa Cydweithio Digidol nesaf.

Cofrestrwch ar Zoom ymlaen llaw a gadewch i ni wybod sut y gallwn wneud y digwyddiad yn hygyrch i chi.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event