Rheolwr Porffolio

Cyflog
£47,775
Location
Cymru
Oriau
Full time
Closing date
06.07.2021

Postiwyd gan: HR@ACW

Dyddiad: 15 June 2021

Am y Rheolwyr Portffolio

Mae’r Rheolwyr Portffolio yn uwch weithwyr proffesiynol yn y celfyddydau sy’n cyfuno eu harbenigedd celfyddydol sylweddol a’u gwybodaeth fusnes gref i helpu i gyflawni’n ymarferol ystod o fentrau sy’n gysylltiedig â flaenoriaethau Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae Rheolwyr Portffolio hefyd yn rheolwyr llinell i’r Swyddogion Datblygu.

Y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r rôl hon yw:

  • Yr iaith Gymraeg
  • Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Agenda Amgylcheddol
  • Partneriaethau cyhoeddus, gan gynnwys Awdurdodau Lleol
  • Cerddoriaeth glasurol
  • Dawns
  • Gwyliau a’r celfyddydau awyr agored

“Yn amrywiol ac yn gofyn llawer ond byth yn ddiflas, mae rôl y Rheolwr Portffolio yn gyfle gwych i weithio gyda chydweithwyr yn genedlaethol ar draws portffolio o feysydd strategol. Os oes gennych chi syniadau a gyriant eisiau gwneud gwahaniaeth i’r celfyddydau yng Nghymru, mae hwn yn amser cyffroes i ymuno â’n tîm.” Sally, Rheolwr Portffolio

Amdanoch chi

Os ydych chi’n rhywun sydd â phrofiad blaenorol o weithio yn y celfyddydau neu gymunedau ac sy’n gallu ysbrydoli hyder yn y sector, gallai’r rôl hon fod i chi. Bydd angen i chi fod yn ddatryswr problemau ac yn feddyliwr creadigol, a hefyd gwybod sut i fod yn gynhyrchiol, yn drefnus a sut i gyflawni pethau. Gallwn ddysgu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi os ydych chi’n chwilfrydig ac yn ddigon gyredig i fod yn rhan o’n tîm.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch fynegiant o ddiddordeb, CV a Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal i AD@celf.cymru

Gellir cyflwyno mynegiadau o ddiddordeb mewn ffurf Word neu PDF, fel nodyn llais neu fideo. Os ydych chi’n cyflwyno nodyn llais neu fideo, cadwch at uchafswm o 10 munud.

Dylai eich mynegiant o ddiddordeb ddweud wrthym pam fod gennych chi ddiddordeb yn y rôl hon, sut y byddech yn mynd at y gwaith, a pa brofiad, gwybodaeth neu ddealltwriaeth sydd gennych chi o’r meini prawf hanfodol a restrir yn adran ‘gwybodaeth, profiad a nodweddion’ y disgrifiad swydd.

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Oherwydd portffolio’r swydd wag benodol hon, mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) hyd at Lefel 3 o leiaf yn hanfodol ar gyfer y rôl. Gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac  i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Dyddiad cau:                         12:00 canol dydd, dydd Mawrth 6 Gorffennaf 2021

Cyfweliadau (dros fideo):       Yr wythnos o 19 Gorffennaf 2021

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. Am ragor o fanylion ewch i https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Bydd Cyngor y Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn camu i mewn i’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.