Mae Caerdydd Creadigol a Katie Owen yn falch iawn o gyhoeddi Chwarae Teg, digwyddiad cyffrous newydd i arddangos a dathlu artistiaid newydd o Gymru. Ymunwch â ni ar 11 Rhagfyr 2024yn The Moonar Womanby St am noson dan arweiniad y DJ a’r cyflwynydd Katie Owen ac yn cynnwys rhai o gerddorion newydd y ddinas a thu hwnt!
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein lein-yp anhygoel:
🎧 Welsh Chicks
Deuawd DJ o Gaerdydd yw Welsh Chicks, sy’n cynnwys Molly Palmer, cyflwynydd BBC Radio Cymru, a Daniel Abrams, cynhyrchydd Heart Drive Time. Wedi’u huno gan eu cariad at gerddoriaeth bop a radio, maen nhw wedi DJ-io ar draws y DU mewn gwyliau a nosweithiau clwb, gan greu preswylfeydd ac ymrwymo i gynnig cynwysoldeb a mannau diogel trwy eu setiau.
🎤 Wrenna
Mae’r gantores-gyfansoddwraig Wrenna, sy’n dod i’r amlwg fel seren indie dream-pop Gymreig, yn cyfuno llais awyrol tebyg i Birdy gyda chynyrchiadau atmosfferig Holly Humberstone. Trwy’i geiriau emosiynol, mae’n archwilio themâu o golli anwyliaid, straeon pobl ifanc, a’r daith i wireddu breuddwydion.
Gyda llwyddiannau fel y Youth Music Next Gen fund, sawl lle ar y BBC Radio Wales Welsh A List, a pherfformiadau yng Ngŵyl In It Together a sioe ben ei hun yng Nghaerdydd, mae Wrenna yn seren sy’n tywynnu’n llachar.
🎵 Nancy Williams
Er mai dim ond 18 oed yw Nancy Williams o Ferthyr Tudful, mae hi’n swyno cynulleidfaoedd gyda’i chyfansoddiadau ingol. Wedi’i darganfod gan y cyfarwyddwr ffilm Jonny Owen, fe wnaeth Nancy gydweithio gyda’r cynhyrchydd Gwyddelig Darren Morrisey i greu ei EP cyntaf—archwiliad o’i gwreiddiau Cymreig a’i thaith bersonol. Wedi symud i Lundain erbyn hyn, mae Nancy yn falch o’i hetifeddiaeth Gymreig, sy’n dylanwadu ar ei gwaith creadigol.
P’un a ydych yn artist sy’n dyheu am lwyddiant neu’n frwd dros gerddoriaeth, ymunwch â ni i ddathlu tirwedd cerddoriaeth fywiog Caerdydd.
Gallwch archebu eich tocynnau yma!