Katie Harrington

Roeddwn i am weld y prosiect hwn yn dwyn ein cymuned greadigol ynghyd, ac yn ein cysylltu mewn ffordd ymarferol a diogel wrth annog pobl i fwynhau. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 25 September 2020

Homebrewed final piece

Prosiect â’r nod o greu cysylltiadau lleol ag artistiaid eraill drwy’r post oedd Homebrewed: A ‘Do-It-Yourself’ Pinhole Photography Kit, a hynny drwy anfon pecynnau yn cynnwys y canlynol: elfennau sylfaenol adeiladu camera cardbord, papur ffotograff du a gwyn, a chyfarwyddiadau ar sut i brosesu ffotograffau gan ddefnyddio deunyddiau eco-gyfeillgar yn y cartref (fel coffi a halen) i greu gwaith gweledol ar y cyd. 

Mae’r pecynnau yn dadelfennu’r ddelwedd ‘glasurol’ bellach o ddatblygu ffilm yn ffurf ymarferol cartref  – manylder uchel i fanylder isel. Ar adeg pan fo pawb yn byw yn eu byd bach eu hunain oherwydd y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd yn sgil pandemig byd-eang, gofynnais i unigolion creadigol lleol ddefnyddio’r amgylchedd domestig hwnnw yn uniongyrchol mewn cyfrwng ‘celfyddyd gain’ traddodiadol wrth ymateb i’r cyfnod anodd mae pawb yn byw drwyddo ar hyn o bryd.  

Roeddwn i am weld y prosiect hwn yn dwyn ein cymuned greadigol ynghyd, ac yn ein cysylltu mewn ffordd ymarferol a diogel wrth annog pobl i fwynhau rhoi cynnig ar gyfrwng gwahanol er mwyn ymdopi â’r sefyllfa sydd ohoni. 

Mae’r darn terfynol yn adlewyrchiad gweledol o brosiect cydweithredol ein cymuned, ac amser yr artistiaid yn ystod cyfyngiadau symud byd-eang pandemig COVID-19 wrth iddynt ymateb i’r ansicrwydd gan ddefnyddio’r cyfrwng anghyfarwydd hwn. Mae’r bylchau yn y darn yn cynrychioli’r rhai na wnaethant lwyddo i orffen y gwaith. Penderfynais gynrychioli eu habsenoldeb fel adlewyrchiad cywir ac uniongyrchol o’r cydweithio a’n profiadau yn ystod y cyfnod arbennig o anodd hwn. Ni allwn bob amser fod yno i’n cymunedau ar adegau anodd, er gwaethaf yr hyn a ddymunem. 

Katie Harrrington - individual photos

Katie Harington - individual photos 2

Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Katie Harrington:

I wybod mwy am Katie Harrington a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.