Arigh? Llythyr Gariad i Brifddinas Cymru
Gwelwch y disgrifiad clywedol isod a chliciwch CC ar y fideo er mwyn dewis isdeitlau Cymraeg neu Saesneg.
YR ARTIST: Cafodd Jason Mohammad ei eni a’i fagu fel Mwslim ar stad tai cyngor yng Nghaerdydd. Gadawodd yr ysgol gyda 5 TGAU ac aeth ymlaen i astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe cyn cwblhau Gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Jason yn byw yn y ddinas ac mae bellach yn un o ddarlledwyr mwyaf proffil uchel Prydain gan weithio i adran chwaraeon y BBC ar y teledu, BBC Radio 2 a BBC Radio Wales.
Y PROSIECT: Roeddwn i am gyfleu fy nghariad tuag at fy ninas mewn gair a llun. Mae Caerdydd wedi rhoi’r cyfle imi ddilyn gyrfa yn y diwydiannau creadigol felly, drwy dalu teyrnged i bob agwedd ar y ddinas, rwyf hefyd yn diolch i’r bobl hynny sydd wedi chwarae rhan yn fy stori.
Gan mai ffilm yw hon, roedd hefyd angen imi ddod o hyd i leoliad ffilmio. Dewiswyd Canolfan Islamaidd De Cymru, sy’n agos iawn at fy nghalon.
Mae’r bobl a’r lleoedd rwyf wedi ysgrifennu amdanynt wedi chwarae rhan annatod yn fy nhaith. Mae’r rhannau o Gaerdydd y cyfeirir atynt yn y testun a’r ffilm fer wedi dylanwadu ar yr hyn a deimlaf a’r hyn a gredaf, yn ogystal â’m hymddiriedaeth mewn pobl.
Hoffwn ysbrydoli pobl drwy fy ngeiriau a’r delweddau allweddol, am y rheswm syml y gall creadigrwydd, gonestrwydd, cariad, gwên a’r gwirionedd newid bywydau pobl.
DIsgrifiad clywedol gan Jason Mohammad:
I wybod mwy am Jason Mohammad a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.