The Ida Network: Cyfarfod Caerdydd

13/05/2024 - 13:00
Canolfan Mileniwm Cymru - Cabaret

Postiwyd gan: Abi.Fitzgerald

ida.hwb@wmc.org.uk

Cyfarfod rhwydwaith IDA yng Nghaerdydd yw digwyddiad cyntaf Hwb Ida yng Nghymru. Rydyn ni’n meithrin cymuned o fenywod, pobl anneuaidd a phobl draws sy’n gweithio mewn technoleg ymdrochol, neu sydd eisiau gweithio yn y maes. Os ydych chi’n hunaniaethu fel menyw, person anneuaidd neu berson traws, dewch i gwrdd â phobl eraill yn y gymuned.

Ein nod yw gwneud y gofod yma mor groesawgar a chynhwysol â phosibl. Mae ein cyfarfodydd yn anffurfiol a chyfeillgar, p’un a ydych chi’n newydd i’r diwydiant neu beidio. Rydyn ni’n gobeithio bod hwn yn ofod lle y gallwch chi ddod a chysylltu â’r gymuned ddatblygol a chynyddu eich cysylltiadau a’ch hyder.

Bydd y digwyddiad yma yn cynnwys rhwydweithio anffurfiol a chyflwyniadau o’r diwydiant. Bydd Ida yn cyflwyno eu canfyddiadau o’u hadroddiad diwydiant diweddar a bydd cyflwyniadau pellach am lwybrau cyllid hygyrch a jyglo cyfrifoldebau gofal plant.

Caiff y digwyddiad yma ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd diodydd a chinio (opsiynau llysieuol a fegan) yn cael eu darparu. Os ydych chi’n rhiant ac mae cyfrifoldebau gofal plant yn eich rhwystro rhag dod, rhowch wybod i ni ymlaen llaw ac fe wnawn ni ein gorau i’ch helpu chi.

Nodwch, does dim lle i barcio ar y safle, ond mae digon o opsiynau parcio ym Mae Caerdydd; yr agosaf yw Q Park.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event