'Da ni'n ganol yr haf, felly mae gwyliau, gigs a digwyddiadau diwylliannol yn ymddangos ledled y ddinas. Ond gyda seilwaith dros dro, torfeydd, technoleg a gwastraff - sut ydym ni'n lleihau effaith amgylcheddol ein digwyddiadau creadigol byw? A sut ydym ni'n hyrwyddo diwylliant cynaliadwy o fewn gwaith creadigol?
Ar ddydd Mercher 23 Gorffennaf, mae Caerdydd Creadigol yn partneru â Media Cymru ar ddau ddigwyddiad sy'n canolbwyntio ar ddulliau carbon isel, ecogyfeillgar o weithio yn y sector creadigol (Sut i fod yn 'Greenlancer') a rheoli digwyddiadau diwylliannol (Paned i Ysbrydoli).
Dywed Cynhyrchydd Media Cymru, Greg Mothersdale, sy'n helpu i drefnu'r diwrnod:
Mae'r diwrnod hwn yn gyfle gwych i wella'r diwylliant cynaliadwy o fewn y sector creadigol yn Ne Cymru. Bydd yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd i weithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig, mae'n mynd i'r afael â 2 o'r prif bethau a gymerwyd o gynllun Bargen Newydd y Sgrin Cymru, sef cynllun diwydiant cydnabyddedig yr ydym yn ei weithredu yng Nghymru: Hyfforddiant, cydweithio a diwylliant.
Rwy'n falch iawn o weld y bydd Picture Zero a Hope Solutions yma i rannu eu harbenigedd a'u mewnwelediadau.

Yn y bore: Sut i fod yn Greenlancer
Os ydych chi'n weithiwr llawrydd sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol ac sydd â diddordeb mewn gwneud rhywfaint o arbedion i'ch poced yn ogystal â'r blaned, ymunwch â ni ar gyfer ein sesiwn ryngweithiol am ddim am 10:00 ddydd Mercher 23 Gorffennaf.
Er bod pryder ecolegol yn parhau i esblygu ynghyd ag effeithiau newid hinsawdd, nid yw erioed wedi bod yn amser pwysicach i weithwyr llawrydd creadigol (hunangyflogedig neu PAYE) fabwysiadu ac ymgorffori arferion cynaliadwy yn eu bywydau bob dydd.
Wedi ei arwain gan Picture Zero, mae ‘Sut i fod yn Greenlancer’ yn ganllaw deniadol, syml ar sut y gallwch chi ganolbwyntio ar yr amgylchedd ac yn bod yn fwy craff o ran cyllid ar lefel bersonol iawn.
Mae'r gweithdy'n cynnig cyngor ymarferol ar sut y gall gweithwyr llawrydd ganolbwyntio mwy ar yr amgylchedd a bod yn fwy craff o ran cyllid ar draws:
- Gweithio o gartref
- Presenoldeb digidol/ar-lein
- Teithio a thrafnidiaeth
- Swyddfeydd
Archebu lle ar 'Sut i fod yn Greenlancer'.
Yn y prynhawn: Paned i Ysbrydoli gyda Hope Solutions
Bob mis, mae Caerdydd Creadigol yn cynnal digwyddiad rhwydweithio am ddim i bobl greadigol. Yn unol â'n ffocws cyffredinol ar gyfer mis Gorffennaf (rheoli digwyddiadau), bydd Caerdydd Creadigol a Media Cymru yn cynnal Paned i Ysbrydoli gyda Hope Solutions ar 'gynaliadwyedd mewn digwyddiadau byw'.
Mae Hope Solutions yn ymgynghoriaeth gynaliadwyedd arbenigol sy'n gweithio ar flaen y gad o ran gweithredu ar yr hinsawdd yn y diwydiannau cyfryngau, adloniant, cerddoriaeth a diwylliannol.
Gyda degawdau o brofiad, rhwydwaith creadigol eang a dull clir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, maent wedi dod yn bartneriaid dibynadwy i rai o brosiectau mwyaf proffil uchel y byd gan gynnwys: Glastonbury, Coldplay, Gwobr Earthshot a Phenwythnos Mawr Radio 1.
Bydd Rheolwr Digwyddiadau Byw Hope Solution, Bryonie Mathews, yn ymuno â ni, yn dod â dull ymarferol o gefnogi cleientiaid gyda strategaeth gynaliadwyedd tactegol, gweithrediadau, a mesur effaith. Mae ei ffocws ar atebion ymarferol, graddadwy yn sicrhau gwelliannau amgylcheddol hirdymor.
Archebu eich lle ar ein 'Paned i Ysbrydoli: Cynaliadwyedd mewn digwyddiadau byw'.

Mwy o wybodaeth
Mae'r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim i fynychu ac yn digwydd yn yr un lleoliad (Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd). Er bod y ddau ddigwyddiad yn rhan o raglen, bydd angen i chi gofrestru ar wahân i fynychu'r ddau. Mae egwyl awr rhwng sesiynau. Anogir mynychu digwyddiadau'r bore a'r prynhawn, ond nid yw'n ofynnol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y naill ddigwyddiad neu'r llall, anfonwch e-bost at creativecardiff@cardiff.ac.uk.