Gwyliwch y bwlch: Datblygu Sgiliau Pobl Greadigol Caerdydd

27/02/2018 - 17:00
Atrium, University of South Wales, 86-88 Adam St, Cardiff CF24 2FN
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dadl banel ar Sgiliau ar gyfer Cynaliadwyedd yn nodi’r sgiliau angenrheidiol i raddedigion a gweithwyr llawrydd creadigol yng Nghaerdydd.

Mae gweithlu medrus yn sylfaen pwysig i unrhyw clŵstr creadigol sy’n ffynnu. Ydym ni yn gwneud digon i sicrhau gweithlu cynaliadwy, talentog ac amrywiol yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach?

Mae ein diwydiannau creadigol yn symud yn gyflym, sut mae’r gweithlu llawrydd, sy’n tyfu mor gyflym, yn gallu cadw eu sgiliau yn berthnasol? Beth yw eu hanghenion datblygiad proffesiynol a sut all darparwyr addysg, diwydiant, undebau masnach a chyrff sgiliau helpu i ddenu'r rhain at ei gilydd?

Bydd y ddadl panel hon yn canolbwyntio ar sut i gynnal piblinell talent Caerdydd gan ofyn pwy fydd yn arwain yr agenda sgiliau ar gyfer cynaliadwyedd? Bydd y panel yn cael ei arwain gan Ruth McElroy, Athro o Ddiwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol De Cymru, a fydd yn nodi ffigurau pwysig am y diwydiant creadigol, gwneuthurwr polisi, academyddion ac asiantaethau sgil.

Yr Athro Justin Lewis, Athro Cyfathrebu, Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd, Astudiaethau Cyfryngau a Diwylliannol

Pauline Burt

Ymunodd Pauline ag Asiantaeth Ffilm Cymru fel Prif Weithredwr, newydd iddo gael ei sefydlu ym Mai 2006. Treuliodd y pedair blynedd flaenorol yn gweithio i Mansfield Associates, Llundain yn y byd ariannu masnachol, i Fanc Brenhinol yr Alban a Banc Masnachol Rand, ynghyd ag eraill, fel Rheolwr Risg. Cyn hynny hi oedd pennaeth cynhyrchu Sgrin, yr Asiantaeth Gyfryngol Gymreig flaenorol.

Faye Hannah

Mae Faye yn fyfyriwr ymchwil graddedigion PhD ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ei hymchwil PhD yn archwilio datblygu talentau diwydiannau sgrin, llafur creadigol a pholisi cysylltiedig yng nghyd-destun Cymru fel cenedl fach.

Mae Faye wedi gweithio gyda thrawsdoriad eang o Ddiwydiannau Creadigol y DU, gan gynnwys Creative Skillset, BFI a BAFTA. Yn 2014 sefydlodd 'Our Colab' ymgynghoriaeth wedi ei leoli yng Ngymru sy'n darparu sgiliau diwydiannau creadigol, prosiectau addysg a hyfforddiant.

Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd, cysylltwch â creativecardiff@cardiff.ac.uk.

Archebwch nawr 

 

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event