Gwneuthurwr Propiau

Cyflog
£30,522.12
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
01.09.2023
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 17 August 2023

Gwneuthurwr Propiau

 

Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio ynddo ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

 

Rydym yn awyddus i benodi Gwneuthurwr Propiau i gynorthwyo â’r gwaith o greu a chaffael eiddo ar gyfer holl gynyrchiadau a digwyddiadau WNO hyd eithaf eich gallu ac i'r safon orau bosibl. Byddwch yn cydweithio ochr yn ochr ag is-gwmni WNO, Gwasanaeth Theatraidd Caerdydd (CTS) ar brosiectau masnachol yn ôl y gofyn. Cynorthwyo i reoli a goruchwylio holl staff adran bropiau WNO, yn cynnwys swyddi dan hyfforddiant.

 

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

 

Wrth gydweithio’n agos â’r Pennaeth Propiau a Chyd-dechnegwyr Propiau, mae'r rôl hon yn cynnwys creu propiau ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau WNO. Mae diddordeb rhagweithiol mewn creu propiau, ynghyd â medrusrwydd wrth ymchwilio technegau a dulliau cost-effeithiol, yn hanfodol ar gyfer creu propiau o’r radd flaenaf. Mae’r swydd hon yn cynnwys goruchwylio’r gwaith o greu propiau ar gyfer sioeau, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau diogelwch. Wrth fynychu ymarferion a chyfarfodydd yn ôl yr angen, mae’r rôl yn cynnwys gweithio gyda dylunwyr i roi bywyd i ddyluniadau eiddo o fewn yr amserlen a’r gyllideb. Mae cydlynu adrannau’n effeithiol, cadw cofnodion manwl gywir o fanylion propiau, a chadw ar flaen dulliau creu propiau modern yn gyfrifoldebau allweddol. Mae cynnal gweithle diogel a thaclus wrth gydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch hefyd yn hollbwysig.

 

Beth fydd angen i chi ei gael?

 

Bydd gennych chi sgiliau cyfathrebu a hunan gymell rhagorol, a bod â ffordd greadigol o feddwl er mwyn rheoli blaenoriaethau sy’n gwrthdaro. Mae addasu’n gadarnhaol i amgylcheddau heriol o fewn cyfyngiadau amser a chyllidebol yn hanfodol. Mae profiad o weithdai propiau ar raddfa fawr, gwaith metal medrus, weldio a gwybodaeth o gynnal peirianneg yn allweddol. Yn ogystal â hynny, mae sgiliau gwaith coed, cerfio a chreu mowldiau, ynghyd â defnyddio arddulliau cyfnodau hanesyddol, yn hanfodol. Mae disgwyl ichi feddu ar fedrusrwydd wrth gaffael propiau, gweadu, paentio, a gwisgo setiau. Mae gofyn ichi feddu ar sgiliau TG, gan gynnwys Word, Excel, a dealltwriaeth o CAD a meddalwedd graffeg, a hynny oll wrth gydymffurfio â chanllawiau diogelwch a chyflwyno technegau newydd.

 

Beth allwn ni ei gynnig i chi?

 

Cyflog Cystadleuol

 

Gwyliau Blynyddol

 

Hyd at £30,522.12 y flwyddyn

 

Mae gan gydweithwyr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n rhedeg o 1 Medi i 31 Awst.  Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn.  Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod.

Pensiwn

Mae'r holl weithwyr wedi'u cofrestru'n awtomatig i Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, tri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol.  

Aelodaeth Campfa
 

Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd.  

Gostyngiadau

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn siopau penodol o fewn yr adeilad a bwytai penodol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwestai Future Inn yng Nghaerdydd.

 Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park
 

Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC).

Rhaglen Cymorth i Weithwyr
 

Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr.

Gwersi Cymraeg
 

Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gwella dewisol yn rhad ac am ddim.

Cynllun Arian Meddygol ac Ychwanegiadau at Fy Nghyflog

 

Mae pob cydweithiwr wedi’i gofrestru’n awtomatig i gynllun arian meddygol o’r enw BHSF ar lefel Arian, y telir amdano gan WNO, lle gallwch hawlio arian yn ôl ar gyfer gofal iechyd arferol a brys mewn perthynas ag ystod o ofal iechyd gan gynnwys gwasanaethau ffisiotherapi, deintyddiaeth, optegol, osteopathi a mwy.  Gallwch hefyd fanteisio ar fynediad at gwasanaethau Meddyg Teulu a phresgripsiwn a gwasanaethau iechyd meddwl/cwnsela.

Mae ‘Ychwanegiadau at Fy Nghyflog’ yn cynnig buddion a gostyngiadau ar wariant bob dydd, gan gynnwys, diwrnodau hamdden allan, pryniannau cartref, moduro a theithio.

 

Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg. Os ydych yn dymuno gwneud cais yn Gymraeg, ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na phe byddech yn gwneud cais yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event